Bobi a ddywedodd:Alun Williams ETO? Pam na all raglenni plant S4C ddod o hyd i unrhyw gyflwynwyr newydd am unwaith? Mae'n rhy hawdd mynd am y dewis diog o roi'r un hen gyflwynwyr ar bob rhaglen.
Dw i eisioes wedi sôn am y dewis. Mae yna ddau aelod cyflwyno gwbl newydd yn y gyfres, sef Ioan Thomas a Gwyn Eiddior Parry.
Mae'n siwr dy fo' ti'n gwybod mai Alex Jones oedd cyflwynydd gwreiddiol cyfresi
Hip neu Sgip?? Pan ddaeth yr alwad gan
The One Show (a ninnau eisioes wedi dechrau cynhyrchu
HnS?: Yeyc), roedd rhaid i ni edrych am gyflwynydd newydd. Ac ar raglen awr o hyd, sydd yn ddibynnol tu hwnt ar allu y gyflwynydd i gadw pethau i redeg, roedd angen rhywun profiadol. Roeddem eisioes wedi gweithio gydag Alun ar
Stwffio ac
Ant ac Al ar y Ffordd, a mi oedd y dewis yn un hawdd i'w wneud. Tydi rhaglen sydd yn gorfodi criwiau i weithio 2 x 12 awr strêt ddim yn le i hyfforddi cyflwynydd newydd, yn enwedig pan fod yna cyn lleied â mis rhwng y gyhoeddiad am Alex (25 Gorffennaf) a dechrau saethu'r rhaglen gyntaf (29 Awst).