Tudalen 2 o 2

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 7:16 pm
gan Chickenfoot
Leah Hughes = blasus!

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 7:55 pm
gan ows-fflic
Chickenfoot a ddywedodd:Leah Hughes = blasus!

Saith rhaglen awr o hyd arall i ddod, Chickenfoot! Gei di chryn dipyn o flas arni erbyn diwedd Chwefror! :D

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Mer 12 Ion 2011 12:25 am
gan jammyjames60
Leah Hughes yn ABSOLUTELY prydferth.

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Mer 12 Ion 2011 9:17 am
gan ows-fflic
jammyjames60 a ddywedodd:Leah Hughes yn ABSOLUTELY prydferth.

Mwy o Leah heno am 16:25, JYST i ti, Jambo! :lol:

Ffreutur Ysgol y Strade sydd o dan sylw Alun Williams, y cynllunydd Leah Hughes a'i thim ô Ddynion Cryf heno!
A fydd 24 awr yn ddigon i dîm Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc drawsnewid y bwyty di-liw yma?

Bydd Alun yn llwyddo gweini gwledd, neu fydd e ond yn medru cynnig lluniaeth ysgafn?!

Delwedd

http://www.facebook.com/hipsgip

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Maw 18 Ion 2011 9:21 pm
gan ows-fflic
Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc | Nos Fercher | 16:25 | S4C

Canolfan gerddorol CeLL ym Mlaenau Ffestiniog sydd o dan sylw Alun Williams, y cynllunydd Leah Hughes a'i thim ô Ddynion Cryf yr wythnos hon!

Bydd 24 awr yn ddigon i dim "Hip neu Sgip?" drawsnewid yr hen orsaf heddlu fewn i swyddfa olygu cyfoes?

Bydd Al yn canu tôn peraidd, neu fydd e'n gwario'r nos yn y clincar?!

http://www.facebook.com/hipsgip

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Sul 23 Ion 2011 5:55 pm
gan Bobi
Alun Williams ETO? Pam na all raglenni plant S4C ddod o hyd i unrhyw gyflwynwyr newydd am unwaith? Mae'n rhy hawdd mynd am y dewis diog o roi'r un hen gyflwynwyr ar bob rhaglen.

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 9:12 am
gan ows-fflic
Bobi a ddywedodd:Alun Williams ETO? Pam na all raglenni plant S4C ddod o hyd i unrhyw gyflwynwyr newydd am unwaith? Mae'n rhy hawdd mynd am y dewis diog o roi'r un hen gyflwynwyr ar bob rhaglen.

Dw i eisioes wedi sôn am y dewis. Mae yna ddau aelod cyflwyno gwbl newydd yn y gyfres, sef Ioan Thomas a Gwyn Eiddior Parry.

Mae'n siwr dy fo' ti'n gwybod mai Alex Jones oedd cyflwynydd gwreiddiol cyfresi Hip neu Sgip?? Pan ddaeth yr alwad gan The One Show (a ninnau eisioes wedi dechrau cynhyrchu HnS?: Yeyc), roedd rhaid i ni edrych am gyflwynydd newydd. Ac ar raglen awr o hyd, sydd yn ddibynnol tu hwnt ar allu y gyflwynydd i gadw pethau i redeg, roedd angen rhywun profiadol. Roeddem eisioes wedi gweithio gydag Alun ar Stwffio ac Ant ac Al ar y Ffordd, a mi oedd y dewis yn un hawdd i'w wneud. Tydi rhaglen sydd yn gorfodi criwiau i weithio 2 x 12 awr strêt ddim yn le i hyfforddi cyflwynydd newydd, yn enwedig pan fod yna cyn lleied â mis rhwng y gyhoeddiad am Alex (25 Gorffennaf) a dechrau saethu'r rhaglen gyntaf (29 Awst).

Re: Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc

PostioPostiwyd: Mer 02 Chw 2011 12:14 pm
gan ows-fflic
Hip neu Sgip?: Yn erbyn y cloc | HENO | 16:25 | S4C

Neuadd Gymunedol Bontnewydd sydd o dan sylw Alun Williams, y cynllunydd Leah Hughes a'i thîm ô Ddynion Cryf yr wythnos hon!

Bydd 24 awr yn ddigon i dîm "Hip neu Sgip?" drawsnewid y neuadd a'r cyntedd llwm i mewn i ofod modern a bywiog?

Bydd Alun yn codi llen ar gampwaith theatrig, neu bydd y llen yn disgyn ar ei ben?!

http://www.facebook.com/hipsgip