Tudalen 1 o 1

Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Llun 13 Rhag 2010 10:42 am
gan Cythrel Canu
Mae BBC Radio Cymru wedi bod yn chwarae recordiau Nadoligaidd di ri ers dechrau wythnos diwethaf. Os rhaid dioddef Caryl blydi PJ a'i sgrechen erchyll tra ganu blydi Gŵyl Y Baban unwaith eto ? :x

Re: Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2010 12:27 pm
gan Pethe Coll
o wrando ar radio cymru rhan fwyaf or flwyddyn does ne ddim meddwl o be dwin weld rhan fwyaf or amser sut all radio cymru gyfranu i hybu sin gerddorol fyw.dwi prin yn clywed can yn ystod y dydd o artistiaid syn gigio,sef y rhai syn ymdrechu i wneud cerddoriaeth yn y iaith gymraeg yn rwbeth syn cyffwrdd bobl a cyfrannu at ddiwylliant.tydi yr artitiaid yno ar y cyfan ddim yn dewis sgwenu can dolig er mwyn sgwenu can dolig, dim bwys pam mor crap dio er mwyn cal o ar radio a neud pres.er does dim yn bod a sgwenu can dolig.

ma radio cymru yn dewis chware ar y cyfan, cerddoriaeth sydd di cael ei sgwenu yn arbenig i radio ar y cyfan, gan artistiaid sydd isio gwneud pres o gal i chware ar radio cymru a sydd yn gweld ddim pwynt chware gigs achod diom yn talu.

ma gymaint am ein diwylliant yn dibynu ar bobl yn gwneud pethe o ran egwyddor ond ma radio cymru ar y cyfan yn chware cerddoriaeth sy o ddewis di egwyddor a chyfleus.

os am sin fyw dda ma rhaid cael y gefnogaeth gan radio cymru.
dolig yma ma caneuon dolig o hanes cymru(gan bobl sy ddim yn chware yn fyw ar y cyfan) yn cael i chware trwyr dydd.

dydi chware yn fyw ddim yn talu ar y cyfan.man cymrud ymroddiad.ac erbyn hyn tydi chware yn fyw ddim yn golygu fod chin fwy tebygol o gal ych chware ar radio.

o ran egwyddor a diddordeb yn fy iaith a diwylliant dwin gwrando ar radio cymru.
hen bryd i radio cymru fwydo yn ol i ddiwylliant byw lot,lot mwy

Re: Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2010 2:23 pm
gan sian
Ti wedi cysylltu â nhw i ddweud dy farn?
Tyse 'na ddigon o bobl yn gwneud - efallai y bysen nhw'n gwrando

http://www.bbc.co.uk/cymru/gwybodaeth/s ... lltu.shtml

Re: Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2010 2:34 pm
gan Cythrel Canu
sian a ddywedodd:Ti wedi cysylltu â nhw i ddweud dy farn?
Tyse 'na ddigon o bobl yn gwneud - efallai y bysen nhw'n gwrando

http://www.bbc.co.uk/cymru/gwybodaeth/s ... lltu.shtml


Fi neu Pethe Coll ?

Re: Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2010 2:49 pm
gan sian
Cythrel Canu a ddywedodd:Fi neu Pethe Coll ?


Hi hi! Do'n i ddim wedi gweld dy neges di. Alli di ffonio 03703 500 500 rhwng 8.30 a 10.30!

Re: Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Maw 14 Rhag 2010 3:07 pm
gan Cythrel Canu
sian a ddywedodd:
Cythrel Canu a ddywedodd:Fi neu Pethe Coll ?


Hi hi! Do'n i ddim wedi gweld dy neges di. Alli di ffonio 03703 500 500 rhwng 8.30 a 10.30!


Diolch, ond dwi ddim ishe ffonio Sian. Rant oedd e' :lol:

Re: Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Iau 16 Rhag 2010 6:09 pm
gan Khmer
Pethe Coll a ddywedodd:o wrando ar radio cymru rhan fwyaf or flwyddyn does ne ddim meddwl o be dwin weld rhan fwyaf or amser sut all radio cymru gyfranu i hybu sin gerddorol fyw.dwi prin yn clywed can yn ystod y dydd o artistiaid syn gigio,sef y rhai syn ymdrechu i wneud cerddoriaeth yn y iaith gymraeg yn rwbeth syn cyffwrdd bobl a cyfrannu at ddiwylliant.tydi yr artitiaid yno ar y cyfan ddim yn dewis sgwenu can dolig er mwyn sgwenu can dolig, dim bwys pam mor crap dio er mwyn cal o ar radio a neud pres.er does dim yn bod a sgwenu can dolig.

ma radio cymru yn dewis chware ar y cyfan, cerddoriaeth sydd di cael ei sgwenu yn arbenig i radio ar y cyfan, gan artistiaid sydd isio gwneud pres o gal i chware ar radio cymru a sydd yn gweld ddim pwynt chware gigs achod diom yn talu.

ma gymaint am ein diwylliant yn dibynu ar bobl yn gwneud pethe o ran egwyddor ond ma radio cymru ar y cyfan yn chware cerddoriaeth sy o ddewis di egwyddor a chyfleus.

os am sin fyw dda ma rhaid cael y gefnogaeth gan radio cymru.
dolig yma ma caneuon dolig o hanes cymru(gan bobl sy ddim yn chware yn fyw ar y cyfan) yn cael i chware trwyr dydd.

dydi chware yn fyw ddim yn talu ar y cyfan.man cymrud ymroddiad.ac erbyn hyn tydi chware yn fyw ddim yn golygu fod chin fwy tebygol o gal ych chware ar radio.

o ran egwyddor a diddordeb yn fy iaith a diwylliant dwin gwrando ar radio cymru.
hen bryd i radio cymru fwydo yn ol i ddiwylliant byw lot,lot mwy



Cytuno yn llawyr a ti. Mae Tesni Jones 'Gafael yn fy llaw' siwr o fod wedi neud blydi ffortiwn erbyn hyn!

Mae'n HOLL bwysig fod pawb sy'n teimlo fal hyn yn cwyno neu sgwennu at Ymddiriedolaeth Y BBC fan hyn http://www.bbc.co.uk/bbctrust/cy_index.shtml AC YN CYSYLLTU A RADIO CYMRU.

Re: Recordiau 'Dolig Radio Cymru

PostioPostiwyd: Iau 16 Rhag 2010 7:03 pm
gan Meri
Cytuno. Yn ychwanegol at hyn does dim gwahaniaeth bellach rhwng C2 a gweddill Radio Cymru - heblaw bod C2 yn chwarae cerddoriaeth Saesneg.