Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Gwe 17 Rhag 2010 12:51 am

Eisteddwch lawr. Gwnewch eich hun yn gyfforddus. Ma' hwn yn mynd i fod yn rant, ac yn rant enfawr hefyd.

Mae rheolwyr Radio Cymru naill ai yn hollol di=glem i'r raddau bod fi'n dechrau poeni am eu addasrwydd i ofalu am eu hunain heb gymorth o'r gwasanaethau cymdeithasol. Naill ai hynny, neu mae nhw#n hollol anaddas ar gyfer eu swyddi a rhaid eu gwaredu mor gyflym â phosib. Mae Jonsi wedi mynd. Ydy radio Cymru wedi llenwi'r bwlch yn syth gyda darlledwr craff fyddai'n medru denu gwrandawyr ar gyfnod pwysig o'r dydd i orsaf radio. Ff*c na !! Mae nhw wedi rhoi ffrind yr hicks Geraint Lloyd yn ei le "dros dro" ac yna yn llenwi'r bwlch sydd yn cael ei adael gan Mr. Lloyd yn y nos gyda cyfres o Drongo's a rejects sydd ddim hyd yn oed yn addas ar gyfer radio ysbyty. A mae'r sefyllfa "dros dro " yma wedi bodoli ers misoedd gyda'r gwrandawyr druan yn gorfod dioddef y gymysgedd gwaethaf o radio di=ddychymig, diogel a bland sydd yn bosib ei gynhyrchu. Cyfunwch hyn gyda'r mogadon geiriol a elwir yn Rhaglen Nia a mae gyda chi cyfres o rhaglenni sydd yn gwbl ddiog ac amhosibl gwrando arnynt.
A wedyn ar y pegwn arall, mae Magi Dodd - darlledwr sydd yn sharp, gydag arddull unigryw a chraff yn cael ei hanfon i'r we a slot hanner nos ! Mae hi'n wych ! Mae ei rhaglen yn wych ! a mae'n cael ei gladu tu hwnt i gyrraedd y mwyafrif o wrandawyr cyffredin. Mae Radio Cymru wedi colli neu cael gwared ar lu o ddarlledwyr tebyg i Magi : darlledwyr craff, doniol a beiddgar ac yn eu lle : rhoi rhaglenni i Terwyn Davies, Ifan Evans a datblygu proffil Geraint Lloyd. Mae gwrando ar rhain fel artaith pur a rhaid i ni fel gwrandawyr sefyll, gweiddi a datgan ein anniddigrwydd gyda'r darpariaeth boring ac embarasing sydd yn cael ei wthio lawr ein gyddfau.

A cyn i chi ddweud : nid rhyw rafin ifanc ydw i, rwy'n hanner cant ( bron) ac os dwi'n anghywir, a taw dyma'r hyn mae pobl Cymru wir am wrando arno o ddydd i ddydd, wel fyddai'n ddigon parod i gyfaddef bod fi'n rhyw fath o freak, a mi a'i ar fy ffordd a gwrando ar y llu o orsafoedd eraill sydd yn cynnig rhywbeth at fy nant. Ond dwi am gael adloniant yn y Gymraeg ! Mi oeddwn ni arfer cael gan Radio Cymru - tan i nhw bederfynnu rhywbryd fod y gwrandawyr yn zombies di liw - sydd ond am glywed am hanes dyn sydd yn brîdio hamsters !

Ffw*iwch bant o'm radio Cymru !!!! A dewch i weld pennaethiaid Radio Cymru yn syrthio yn fflat ar eu gwynebau di glem fel rhai S4C !!!

Dewch ymlaen ! Dyma'ch cyfle ! Traed mewn !!!
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Gwe 17 Rhag 2010 1:03 am

o ie....un peth arall. Clwb ff*cin gwau ???????
ffôr ffycs sake !!!!!!!
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan CYFRYNGWR 1 » Gwe 17 Rhag 2010 1:56 am

Llongyfarchiadau ar y rant. Dwi'n cytuno gyda'r hyn sydd gennych i'w ddweud ....

Dwi'n credu ein bod ni i gyd yn gytun fod rhaid i rhywbeth newid ar Radio Cymru ac mae gan bawb digon i gwyno amdani parthed safon cynnwys rhaglenni ond y cwestiwn allweddol y beth....

Beth yw'r syniadau sydd gan y bobl am raglenni "newydd" a "diddorol" - pwy dylid eu cyflwyno os nad y rhai a nodwyd uchod ???

Dyna sydd angen cyflwyno i'r penaethiaid yn ogystal â'r rant arferol sydd digon adnybyddus i ni gyd erbyn hyn.
CYFRYNGWR 1
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 19 Hyd 2010 9:54 am

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Gwe 17 Rhag 2010 2:09 am

Off top fy mhen :

Magi Dodd
Gary Slaymaker
Mwy o Daniel Glyn
Mwy o Tudur Owen

digon i ddechrau ?
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan CYFRYNGWR 1 » Gwe 17 Rhag 2010 6:18 am

Yr un hen 'leisiau' felly a dim gymaint o newid a hynny o ystyried fod gymaint yn bod ar ein gorsaf cenedlaethol ?

Beth yw eich barn ar gyflwynwyr newydd megis Ifan Jones Evans ? Onid yw'n peth braf cael clywed llais newydd ar RC ?

Beth am i bobl gynnig awgrymiadau / syniadau yn benodol ar gynnwys raglenni newydd yn hytrach na dim on cyflwynwyr.

h.y Os nad " mogadon geiriol " gan Nia Roberts sydd yn plesio be' sydd ?

Gyda llaw - dwi'n digwydd cytuno gyda'ch pwyntiau - ond wedi diflasu clywed yr hen un cwyno am Radio Cymru a S4C.
CYFRYNGWR 1
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 19 Hyd 2010 9:54 am

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Meri » Gwe 17 Rhag 2010 8:49 am

Cytuno gyda dewis Zorro o gyflwynwyr.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Gwe 17 Rhag 2010 9:34 am

I ymateb i dy bwyntiau Cyfryngwr 1, mi fyddai'r rhestr yna yn newid y sefyllfa'n syfrdanol ! Dros nos fyddech yn newid sain, ysbryd a delwedd yr orsaf. Mae Ifan yn gyflwynydd gwych ac yma cawn enghraifft berffaith o ddiogi a diffyg gallu cynhyrchwyr a rheolwyr Radio Cymru. Neidio ar gefn gwyneb cyfarwydd o'r teledu a'i drawsblannu ar y radio !!! AR C2 ??? O Bosib y slot mwyaf anaddas i Ifan..Eto gor ddefnyddio gwyneb newydd cyffrous hyd syrfed tan fod pobl wedi blino arno yn gynnar iawn yn ei yrfa. Swydd cynhyrchwyr (teledu a radio) yw meithrin talent newydd, nid ei or defnyddio a'i boeri allan....Eleri Siôn. Un funud flavour of the month, cael ei weld ar bopeth a rwan ? Dim. Radio Cymru oedd y cyntaf iw chlodfori, a'r cyntaf iw phoeri allan !!
O wrando ar rhaglenni Radio Cymru y cyfan 'rwy'n clywed yw cyflwynwyr bored neu di-fflach yn cyflwyno rhaglenni sydd yn amlwg yn cael eu cynhyrchu gan bobl sydd ddim eisiau gweithio ar y rhaglenni hynny. Credwch neu beidio, mae llwyddiant neu fethiant rhaglen radio llwyddiannus yn dibynnu ar ddychymig, talent ac ymroddiad. Tri peth nad yw cynhyrchwyr Radio Cymru na'u rheolwyr amlwg yn deall dim amdanynt.

Mae'n un peth i ddweud " beth am gynnig syniadau newydd" am rhaglenni radio llwyddiannus, ond cadwch mewn côf fod yna nifer fawr o bobl yn cael eu talu'n hael iawn i wneud hyn. Nhw yw'r union bobl rwy'n sôn amdanynt, a nid ein lle ni fel gwrandawyr yw gwneud eu job nhw drostynt. Ni am ein diddanu a'n difyrru, mae cynhyrchwyr a rheolwyr yr orsaf yn cael eu talu'r arian mawr yma i ymateb i'n gofynnion, nid byth a hefyd cwyno am fod pobl ddim yn hapus â beth maent yn clywed.
Mae eliffant yn y 'stafell. Mae'n un mawr !
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Manon » Sad 18 Rhag 2010 5:39 pm

Ma'n rhaid i fi anghytuno.
TYdi pob rhaglen ar RC ddim at fy nant i, ond mae 'na rai- Blas, Cofio, rhaglen Nia- Yn esiamplau o ddarlledu o'r radd flaenaf yn fy marn i.

'Dwi'n meddwl bod Geraint Lloyd yn wirioneddol dda yn be' mae o'n ei wneud, ac er nad ydi o cweit i mi, 'dwi yn gwerthfawrogi bod 'na lawer iawn o bobol sy'n gwirioni ar y math yna o beth.

Mae gan Radio Cymru uffar o joban galad ar eu dwylo- Cynnig arlwy sy'n apelio at Gymry Cymraeg i gyd. Y plant, y bobol ifanc cool, y thirtysomethings, y bobol ganol oed, y ffermwyr, y dineswyr... Mae hyn yn golygu bod rhaid iddyn nhw gynnig llwythi o wahanol steiliau o raglenni. 'Dwi wir yn meddwl bod Radio Cymru yn gwneud joban anhygoel o dda.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Sad 18 Rhag 2010 11:55 pm

'does dim amau fod gan Radio Cymru jobyn amhosibl !
OND.......Ar hyn o bryd mae hyn yn cael ei ddefnyddio gan gynhyrchwyr / rheolwyr diog fel modd i gyfiawnhau y ffaith eu bod nhw ddim yn cyrraed neb !
Mae hwn yn rhywbeth sydd yn RHAID i bawb fod yn ymwybodol ohono!!

Yr esgus mwyaf hawdd yn y byd i gynhyrchydd diog yw....."wel 'dyw pawb ddim yn hoffi'r rhaglen, ond mae gyda ni jobyn amhosib ....ayb ayb ayb..."

Dwi'n fwy na bodlon cyfaddawdi....a fel fi eisioes wedi dweud os taw fi yw'r freak, mi wna'i i ffwrdd a gwrando ar orsafoedd eraill. Yn yr un modd, mae gan freaks fel fi hawl i wrando ar rhaglenni o'm dewis ac er mod i'n derbyn fod pobl efallai'n mwynhau Geraint Lloyd, Nia Roberts a Terwyn Thomas.....yr un pobl bydd rhain, a felly ble mae'r amrywiaeth fydd angen er mwyn i Radio Cymru apelio ay bawb !!!????

Chi'n gweld ? Os chi'n dibynnu ar y ddadl taw gorsaf sydd yn gorfod apelio at bawb yw RC, yna mae;n rhaid i chi Gynnig amrywiaeth/ Ac o dderbyn bod yr uchod ( Nia Roberts, Geraint Lloyd a Terwyn Thomas yn cynrychioli saith awr o'r 18 awr y dydd, nid yw hyn yn amrywiaeth gan fod bron 40 % o'r darlledu dyddiol yn cael ei gynrychioli gan y rhaglenni hyn yn ddadl gref dros amrywiaeth !!!

Oes mae gan RC jobyn amhosibl ! OND mae yna fan canol sydd yn bosib er mwyn apelio at y mwyafrif, a 'does gan RC ddim syniad ble mae'r man canol hyn ! Dyma yw fy mhrif bwynt !!
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Sul 19 Rhag 2010 12:00 am

Gyda llaw Manon ? Ti wirioneddol yn credu fod tair rhaglen yn cynnig gwasanaeth digonol i ti ?

Y reswm fi'n gofyn ? Wel 'rwy'n mwynhau Daf a Caryl a Bwletîn, felly awr am awr, 'rwy'n hapusach gydag arddull RC na ti? :ing:
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron