Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Gwen » Gwe 25 Chw 2011 10:23 am

O'r de ti'n dwad dy hun yn ôl y ffordd ti'n sgwennu (er bod 'na ymgais i swnio'n ogleddol mewn ambell neges). Dydi hyn ddim yn helpu dy ddadl.

Rwbath yn od am greu mwy nag un cyfri i drio creu deialog am y peth hefyd a gweiddi ar dop dy lais i swnio fel bod PAWB yn anfodlon efo RC. Be sy - wedi cael cam, ia?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Khmer » Gwe 25 Chw 2011 1:02 pm

Gwen a ddywedodd:O'r de ti'n dwad dy hun yn ôl y ffordd ti'n sgwennu (er bod 'na ymgais i swnio'n ogleddol mewn ambell neges). Dydi hyn ddim yn helpu dy ddadl.

Rwbath yn od am greu mwy nag un cyfri i drio creu deialog am y peth hefyd a gweiddi ar dop dy lais i swnio fel bod PAWB yn anfodlon efo RC. Be sy - wedi cael cam, ia?


Sut wyt ti'n gwbod fod Zorro wedi creu mwy nag un Cyfri? A'i am dy fod yn Gymedrolwr? wyt ti yn datgan rhwybeth ddylsai fod yn breifat i Zorro fan hyn?
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Gwen » Gwe 25 Chw 2011 4:30 pm

Mae Gweinyddwyr yn gallu gweld rhifau IP defnyddwyr a sylwi felly os oes dau (neu dri...) 'llais' gen un person, sy'n mynnu cynnal deialog efo fo'i hun er mwyn gwthio'i ddadleuon. Dydw i ddim yn weinyddwr, nac yn gymedrolwr ar y seiat yma fel mae'n digwydd bod. Ond weithiau mae pethau (arddull ayyb) yn hollol amlwg.

Dydi hyn ddim "yn breifat i zorro". Dyna reolau'r maes. Dwi ddim yn 'owtio' pwy ydi zorro yn y cigfyd. Er, di hynny chwaith ddim yn cymryd rocet saiyns.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Gwe 25 Chw 2011 8:59 pm

Difyr dros ben, ond ambell i faith bach i chi :
1. Un cyfrif Maes e sydd genna'i
2. 'Rwy'n gosod fy nheimladau a safbwyntiau ar y Maes fel pawb arall.
3. Croeso i chi gytuno neu angytuno neu dadlau, ond dim dwyn ensyniadau.
4. 'Dwi ddim yn bersonol wedi cael cam gan RC, a 'does dim unrhyw agenda gudd, ond 'rwy yn mwynhau gwrando ar yr orsaf llawer llai nag oeddwn ni.
5. Tipyn o fongrel ydw i : os yw hi'n dy blesio i feddwl amdana'i fel hwntw, "knock yourself out". 'Dwi ddim o'r farn fod problemau Rc yn codi o De vs Gogledd a gobeithio fod hyn yn glir o ddarllen fy sylwadau hyd yn hyn.

Gobeithio fod hynna'n clirio'r mater rhywfaint.
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Manon » Sad 26 Chw 2011 12:26 pm

Ieeeeei! Ffrae maes-e, wwww ma' hyn yn mynd a fi 'nol i 2004... 8)

Sylwch pa mor aml mae'r pobl anffodus sydd yn cyrraedd ein tonfeddi cenedlaethol (wedi ffonio i gynnig barn neu cystadlu mewn cystadleuaeth) â rhywbeth yn bod â nhw.

Pa mor aml chi 'di clywed y geiriau.." diolch Geraint...'rwy methu symud achos mae gen i athritis" neu " O Hywal, chi'n gysyr i hen wr sydd wedi colli ei goes " neu fi'n gwrando pob dydd Nia, ers i mi gael clywed bod fi'n methu symud o'r gwely"

'Rwy'n credu fod yr achosion bell dros y cyfartaledd cenedlaethol.

Efallai fod hi'n amser ail fedyddio ein gorsaf genedlaethol yn Radio Dignitas......er wedi meddwl, mae Dignitas yn eich galluogi i farw gyda balchder ag urddas !


Ma' hwn yn bost hollol afiach, heb son am y faith ei fod o'n sothach llwyr. Dwn i ddim be' ydi'r pwynt wyt ti'n drio'i wneud. Mae'n ymddangos fel nad oes gen ti ateb i'r rhai sydd wedi postio eu bod nhw'n hollol hapus efo Radio Cymru.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Gwen » Llun 28 Chw 2011 10:07 am

Os o'n i'n anghywir, yna dwi'n ymddiheuro. Na i jyst derbyn bod 'na fwy nag un efo obsesiwn am lambastio S4C a Radio Cymru sy'n rhedeg o un edefyn i'r llall, a dim i'w ddweud am unrhyw bwnc ac eithrio hynny. Rhyfedd, ond digon posib. Felly sori.

Anghytuno? Ydw. Ond dwi'm yn gweld pwynt bod yn ailadroddus am y peth. Digon hapus efo S4C a Radio Cymru, fy hun. Mae 'na raglenni sy ddim i mi felly dwi'm yn gwrando ar y rheini heblaw mod i yn y car efo rhywun arall neu rwbath, a dwi'n gweld eu bod nhw'n iawn am be dyn nhw.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Siani Flewog » Maw 01 Maw 2011 9:28 pm

Dwi ddim yn aml yn cyfrannu yma ond mae'n rhaid i roi clod lle mae'n deilwng. Does dim son am 'Galwad Cynnar' ac 'Ar y Marc' yma - dwi'n meddwl fod y ddwy raglen yn wych. Wedi deud hynny mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni eraill yn gachu (y rhai dwi'n gwrando arnyn nhw - dwi'n cyfadde nad ydwi'n gwrando'n gyson drwy gydol yr wythnos).

Mae'n well gen i Caryl lawer mwy na'r Eleri Sion wirion 'na.

Hefyd pam nad yw RC yn darlledu rhaglen newyddion 6:30 - 9:00 fel mae Radio Wales? Dwi'n troi i Radio Wales cyn gynted a dwi'n clywed Dafydd Du.
Siani Flewog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Gwe 02 Mai 2008 7:57 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Gwe 04 Maw 2011 1:13 am

Y rheswm fod pobl yn "lambastio" RC a S4C yw oherwydd dylanwad amlwg a phwerys y sefydliadau hyn. Mae'r ddau yn denu y cyfraniad mwyaf yn ariannol tuag at dyfodol yr iaith nag unrhyw sefydliad arall yn ddi eithriad. Na nid arian yw pob dim, ond os oes symiau mawr ariannol yn cael ei buddsoddi, yna mi ddylwn ni weld effaith y buddsodiad hyn. Cofiwch nad oes gan y rhan fwyaf o wledydd Celtaidd eraill unrhywbeth sydd yn cymharu â'n darpariaeth ni.
'Rwy'n feirniadol o Radio Cymru oherwydd mae gyda nhw holl adnoddau'r BBC y tu cefn iddynt ac eto mae yna ddifaterwch amlwg yn bodoli ymysg y pobl sydd yn rheoli'r gwasanaeth ar y lefelau uwch. Y ffeithiau syml yw fod cyfartaledd oedran RC yn hŷn rwan na' mae wedi bod ers blynyddoedd, mae eu canran o'r gynulleidfa yn îs a mae yna broblemau sylfaenol a difrifol yn bodoli yn y gwasanaeth. 'Rwy;n parchu'r pobl sydd yn codi llais yn erbyn y safbwynt yma a 'rwy'n parchu'r ffaith fod pawb yn hoffi ac yn casau gwahanol rhaglenni. Ond y cwestiwn sylfaenol yw : fedrwch chi ddweud yn ddi amod fod y gwasanaeth yn ddeiniadol i drwch poblogaeth Cymru ?? Cyn i chwi neidio mewn yn cwyno fod gan RC swyddogaeth anodd i geisio plesio pawb, ei swyddogaeth yw plesio'r mwyafrif.....Radio 2 sydd yn gwneud hyn yn Lloegr, ydy RC yn cymharu?? I ddyfynu cyn olygydd Radio Cymru " Mae Mrs Jones Llanrug bellach â dish Sky, a band eang.....
S4C, wel mae rhain yn fater gwbl wahanol ac i fod yn gryno, 'rwy'n gwylltio o weld adnodd mor werthfawr yn cael ei gam ddefnyddio yn y fath ffordd. 'Sdim angen dweud mwy nag edrych ar yr holl sgyrsiau newydd sydd wedi agor i drafod rhaglenni S4C dros Gwyl Dewi...a na, nid fi sydd wedi eu creu drwy ddefnydd personoliaethau ffug !!

Cofiwch am ein brodyr Celtaidd a'r diffyg sydd ganddyn nhw ! A wedyn edrychwch eto ar ddarpariaeth eich cyfryngau !!
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Manon » Gwe 04 Maw 2011 11:46 am

zorro a ddywedodd: Y ffeithiau syml yw fod cyfartaledd oedran RC yn hŷn rwan na' mae wedi bod ers blynyddoedd, mae eu canran o'r gynulleidfa yn îs a mae yna broblemau sylfaenol a difrifol yn bodoli yn y gwasanaeth.

Wyddwn i mo hynny. Ble mae'r prawf?


'Rwy;n parchu'r pobl sydd yn codi llais yn erbyn y safbwynt yma a 'rwy'n parchu'r ffaith fod pawb yn hoffi ac yn casau gwahanol rhaglenni. Ond y cwestiwn sylfaenol yw : fedrwch chi ddweud yn ddi amod fod y gwasanaeth yn ddeiniadol i drwch poblogaeth Cymru ??


Cymry Cymraeg, ydw, 'dwi wir yn coelio bod RC yn gwasanaethu trwch y boblogaeth.

I ddyfynu cyn olygydd Radio Cymru " Mae Mrs Jones Llanrug bellach â dish Sky, a band eang.....


Ond mae hynny yn bwynt dilys, yn tydi? Mae 'na gymaint mwy o ffactorau rwan yn cystadlu yn erbyn RC- Ydi o'n deg cymharu efo 30 mlynedd yn ol?
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

Postiogan Cythrel Canu » Sul 13 Maw 2011 11:02 pm

zorro a ddywedodd:Y rheswm fod pobl yn "lambastio" RC a S4C yw oherwydd dylanwad amlwg a phwerys y sefydliadau hyn. Mae'r ddau yn denu y cyfraniad mwyaf yn ariannol tuag at dyfodol yr iaith nag unrhyw sefydliad arall yn ddi eithriad. Na nid arian yw pob dim, ond os oes symiau mawr ariannol yn cael ei buddsoddi, yna mi ddylwn ni weld effaith y buddsodiad hyn. Cofiwch nad oes gan y rhan fwyaf o wledydd Celtaidd eraill unrhywbeth sydd yn cymharu â'n darpariaeth ni.
'Rwy'n feirniadol o Radio Cymru oherwydd mae gyda nhw holl adnoddau'r BBC y tu cefn iddynt ac eto mae yna ddifaterwch amlwg yn bodoli ymysg y pobl sydd yn rheoli'r gwasanaeth ar y lefelau uwch. Y ffeithiau syml yw fod cyfartaledd oedran RC yn hŷn rwan na' mae wedi bod ers blynyddoedd, mae eu canran o'r gynulleidfa yn îs a mae yna broblemau sylfaenol a difrifol yn bodoli yn y gwasanaeth. 'Rwy;n parchu'r pobl sydd yn codi llais yn erbyn y safbwynt yma a 'rwy'n parchu'r ffaith fod pawb yn hoffi ac yn casau gwahanol rhaglenni. Ond y cwestiwn sylfaenol yw : fedrwch chi ddweud yn ddi amod fod y gwasanaeth yn ddeiniadol i drwch poblogaeth Cymru ?? Cyn i chwi neidio mewn yn cwyno fod gan RC swyddogaeth anodd i geisio plesio pawb, ei swyddogaeth yw plesio'r mwyafrif.....Radio 2 sydd yn gwneud hyn yn Lloegr, ydy RC yn cymharu?? I ddyfynu cyn olygydd Radio Cymru " Mae Mrs Jones Llanrug bellach â dish Sky, a band eang.....
S4C, wel mae rhain yn fater gwbl wahanol ac i fod yn gryno, 'rwy'n gwylltio o weld adnodd mor werthfawr yn cael ei gam ddefnyddio yn y fath ffordd. 'Sdim angen dweud mwy nag edrych ar yr holl sgyrsiau newydd sydd wedi agor i drafod rhaglenni S4C dros Gwyl Dewi...a na, nid fi sydd wedi eu creu drwy ddefnydd personoliaethau ffug !!

Cofiwch am ein brodyr Celtaidd a'r diffyg sydd ganddyn nhw ! A wedyn edrychwch eto ar ddarpariaeth eich cyfryngau !!


Post gwych.
Pawb at y peth y bo
Rhithffurf defnyddiwr
Cythrel Canu
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 206
Ymunwyd: Mer 28 Meh 2006 12:22 pm
Lleoliad: Lle mae'r pobl gwyllt yn byw

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai