Tudalen 2 o 5

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Sul 19 Rhag 2010 12:05 am
gan zorro
Nid da lle gellir gwell !!!

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Sul 19 Rhag 2010 12:13 am
gan zorro
Gyda llaw. Gallwn ni gael gwared ar y meddylfryd yma o....wel mae gan y cynhyrchwyr yma jobyn anodd felly rhowch ychydig o le iddyn nhw !!

Mae Radio Cymru wedi bod yn rhedeg rwan ers 1967. Mae gan y BBC adran ymchwil sydd yn ceisio rhagweld trends y dyfodol. Mae nhw'n cael eu talu'n anhygoel o dda !!

Chi bobl sydd yn gweithio'n galed pob dydd am arian bach, peidiwch gwneud esgusodion dros bobl sydd yn gwneud llai o waith ac yn cyflawni lawer llai !! Os chi'n gwrando, a mae'n swnio'n sh!t !!

Yna mae'n sh!t !!

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Sul 19 Rhag 2010 9:48 am
gan Duw
Dwi wedi bo'n dweud hyn ers dro. RC wedi colli'r plot. Clwb gwau, bois y loris, Geraint Lloyd... Plwyfol i'r eitha. Gyda Chymru yn stryglo i edrych allan, mae RC yn mynnu ein bod yn edrych mewn. Dwi'n casau Magi Dodd, gyda'i lleisiau dwl, er mae'n gyfoes ac yn ddilys.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Sul 19 Rhag 2010 11:06 am
gan Manon
Esiamplau o'r hyn 'dwi'n ei fwynhau ydi'r rhaglenni yna, mae 'na lawer mwy 'dwi'n licio.

'does dim amau fod gan Radio Cymru jobyn amhosibl !
OND.......Ar hyn o bryd mae hyn yn cael ei ddefnyddio gan gynhyrchwyr / rheolwyr diog fel modd i gyfiawnhau y ffaith eu bod nhw ddim yn cyrraed neb !
Mae hwn yn rhywbeth sydd yn RHAID i bawb fod yn ymwybodol ohono!!


'Dwi yn dallt dy bwynt di, ond 'dwi'n meddwl bod o hefyd yn cael ei ddefnyddio gan bobol i slagio'r orsaf off. 'Dwi methu meddwl am 'run rhaglen sydd ddim yn cyrredd unrhywun- deud y gwir, 'dwi'n siwr mai'r rhai 'dwi ddim yn eu mwynhau ydi'r rhai sy'n gwneud ora o ran gwrandawyr.

Chi bobl sydd yn gweithio'n galed pob dydd am arian bach, peidiwch gwneud esgusodion dros bobl sydd yn gwneud llai o waith ac yn cyflawni lawer llai !! Os chi'n gwrando, a mae'n swnio'n sh!t !!

Yna mae'n sh!t !!


Braidd yn patronizing, ti 'myn meddwl? Wyt ti wir yn meddwl bod pobol yn gwrando am unrhyw reswm heblaw eu bod nhw'n mwynhau'r hyn maen nhw'n ei glywed?

OND mae yna fan canol sydd yn bosib er mwyn apelio at y mwyafrif, a 'does gan RC ddim syniad ble mae'r man canol hyn ! Dyma yw fy mhrif bwynt !!


Mae hyn yn mynd i fod yn un o'r adegau pan ma'n rhaid i ni gytuno i anghytuno. (Dim dyna ydi pwrpas fforwm, naci... Sori :D ) 'Dwi'n meddwl bod nhw wedi ffindio'r man canol a bod nhw'n cynnig amrywiaeth o raglenni, pob un 'dwi wedi ei glywed yn safonol iawn.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Sul 19 Rhag 2010 12:21 pm
gan Meg
Mae Radio Cymru yn gorfod bod yn Radio, 1,2,3, 4 - a 5.
Gwaith uffernol o anodd plesio pawb ar yr un donfedd.
A dwi wedi clywed bod y pres sydd ar gael i wneud rhaglenni y dyddie yma yn pathetic o fychan.
Pam ti'n meddwl mai staff Radio Cymru sy'n cyd-gyflwyno efo magi Dodd, Tudur Owen etc?
Fedran nhw'm fforddio cael gwesteion!
Dwi'm yn keen ar lais Magi fy hun, a lot o gyflwynwyr yn rhy bland a saff. Ond dwi'n dallt - ers y ffys Russell Brand/Jonathan Ross bod y BBC yn gorfod bod yn uffernol o ofalus rwan. Bechod.
Hoffi 'Cofio' John Hardy, Beti a'i phobl ( yn dibynnu ar ei phobl), Dewi Llwyd ar fore Sul, Wythnos i'w chofio ayyb - a gweld isio Eleri Sion yn arw. Rwan, dydi hi ddim yn saff na bland a dyna be sy'n wych amdani. Ond gwbod bod lot o bobl eraill ddim yn cytuno.
Mi ddyle hi gael slot gyda'r nos - deffinet.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Sul 19 Rhag 2010 12:53 pm
gan sian
Fe wnes i fwynhau Stiwdio a Cyfle Cothi'n ofnadwy wrth wneud swper a phwdin Dolig neithiwr.
Dwi'n sylweddoli na fyddai'r rhaglenni hynny at ddant pawb ond roedden nhw'n rhaglenni da ac yn apelio at rywun.
Ar y llaw arall, am tua 6.30 nos Wener (?), roedd rhaglen ddifrifol o ddi-ddim. Roedd y cyflwynydd yn amlwg yn ifanc ond roedd e jest yn chware caneuon bland a phlastig. Alla i ddim meddwl y byddai wedi apelio at neb - ifanc, canol oed na hen. Os oedd pobl yn paratoi i fynd mas am noson, fyddai e wedi gwneud dim i godi'r hwyl. Jest fersiwn iau o Geraint Lloyd. Roedd colli rhaglen Jonsi yn gyfle i sortio'r prynhawn mas ond fe gollwyd y cyfle hwnnw ac, yn aml, mae mwy o'r un peth yn hen slot Geraint Lloyd.

[quote=|"Meg"]gweld isio Eleri Sion yn arw. Rwan, dydi hi ddim yn saff na bland a dyna be sy'n wych amdani. Ond gwbod bod lot o bobl eraill ddim yn cytuno.
[/quote]
Well gen i Caryl o lawer nag Eleri Sion. O'dd y rhaglenni'n troi o gwmpas ES a'i chariad. Doedd gen i ddim diddordeb. Ac roedd hi'n dipyn o liability.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Llun 20 Rhag 2010 12:40 pm
gan Gwen
Dwi'n tueddu i fwynhau'r un math o raglenni â Manon, dwi'n meddwl, er, mi fyswn i'n ychwanegu rhaglen Dei Tomos at ei rhestr hi. (Dwi'n synhwyro mai wedi anghofio honno mae Manon...?) Mi feddyliais am ddeud hyn fy hun ond doedd gen i'm mynadd anghytuno efo chi tan iddi hi neud i ddechra. Mae hi di mynd fel hyn mewn lot o'r seiada ma. Ac ella mod inna'n fwy difynadd nag on i rhwng 2003 a 2006, dwn im.

Ta waeth. Mi dwi'n cytuno efo rhestr Meg hefyd - ac ydi, *mae* hi'n "dibynnu ar ei phobl" o ran Beti.

Ond rhaid i mi anghytuno â phwy bynnag ddywedodd fod rhaglen Nia yr un math o beth â rhaglenni Geraint Lloyd a Terwyn Davies - dydi hi ddim, a bod yn deg. Gwesteion yn cael eu holi sydd ar honno (neu oedd, tro dwytha yr o'n i adra yn ystod y dydd i'w chlywed hi). Mae na le i'r ddau fath. Mae'n well gen i raglen Nia yn bersonol, ond mae Geraint Lloyd yn iawn yn ei le.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Llun 20 Rhag 2010 9:12 pm
gan Duw
> ond mae Geraint Lloyd yn iawn yn ei le

Ie, a 'dyn ni gyd yn gwbod ble 'ma hwnna! :crechwen:

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Llun 20 Rhag 2010 11:06 pm
gan Chickenfoot
'Swn i'n hoffi rywun fel Howard Stern yn y Gymraeg i fod ar Radio Cymru yn lle C2 ambell i noson, neu yn lle Radio 5 trwy'r nos.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Mer 12 Ion 2011 12:10 pm
gan Coc Oen Blin
ti di bod mewn lifft a teimlo awgrym o claustrphobia? ne mynd yn sownd yn dy jympyr wrth ei thynnu dros dy ben? teimlo bo chdi'n mygu, mewn lle mor fach ti methu cael dy wynt? wel, fela dwi'n teimlo wrth wrando ar radio cymru a sbio ar s4c. dwi'n gwbod, ia, bo ni'n wlad fach aballu. os nad yw hi'n fawr ma hi'n ddigon. ffycin reit, digon i neud i chdi chwdu. radio cymru. teitl urddasol. radio i gymru, ein gwlad. radio genedlaethol yn yr iaith frodorol. swnio'n eang ac yn urddasol iawn tydi? ond plis, plis, gadewch i ni fod yn onast. be ydi radio cymru mewn gwirionadd? hospital radio? wel, ella, ond ma gin i ofn ma dim ond yn y terminal ward ma hi i'w chlywad erbyn hyn. cymerwch wedyn y dywediad "pysgod mawr mewn pwll bach". ddim cweit, mwy fel morfilod mawr mewn sosar. iawn, ma jonsi di mynd, am pa bynnag reswm, ond ydi hynny wedi gwella'r sefyllfa? gofyn ydw i. ma 'na leisia newydd yn y bora hefyd. un o'n prif gantorion pop ni yn d-jeio. gret. dim problem yn fanna. wedyn ma'r broblem yn dod, pan glywch chi ma'r record gynta yn y rhaglen sy'n dilyn ydi un o ganeuon y dj o'r rhaglen flaenorol. ac ma nhw'n dal i bentyrru oria o sylw i operau sebon a rhaglenni teledu saesneg, yn cael eu cyflwyno gen rhyw ddyn oedd unwaith yn trapeeze artist, ne lion tamer ne rwbath. ac yn lle jonsi a'i gacan joclet a'i gyulleidfa o 200 o wragedd rhwystredig dros 70 oedd i gyd yn byw hannar awr i ffwrdd o'i gilydd, be sgynno ni rwan? CLWB GWAU! clwb ffycin GWAU! ond rhen hogia 'na o bendraw byd sy di gweld hi bois bach. ma gennyn nhw sioe ar nos sul, ac ma nhw'n chwara eu recordia eu hunain. be ydi hynny dwch? menter ta jest ffwcin cheek? dudwch chi! sawl gwaith dw i di clywed nhw " dyna chi, 'rhen Dwight Yoakam, rhen hogyn o Nashful Teni-siii, yn fana, ew, da di'r hen 'ogia hetia cowboi ma te?" "ew, ia, mi fu gin i un unwaith sti. . . ." " be, het gowboi?" "duw, ia, 'i hennill hi yn y mariiiin leeeec 'na yn rhen Rhyl 'na nes i sti - ddudish i'r hanas wrthat ti dwad?" "do tad, ond rwan ma hi'n amsar am gan arall. un o'n caneuon ni, am tsjeeenj. be di hon dwad, y drydedd heno? ta'r bedwaradd? ta waeth, dyma chwa. . . . ." wel dyna ddechra son am radio cymru, ond ma 'na lot mwy i ddeud. es pewar ec tro nesa! mmmmmmm. . . . .