Tudalen 3 o 5

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Mer 12 Ion 2011 1:03 pm
gan Ramirez
Coc Oen Blin a ddywedodd:ti di bod mewn lifft a teimlo awgrym o claustrphobia? ne mynd yn sownd yn dy jympyr wrth ei thynnu dros dy ben? teimlo bo chdi'n mygu, mewn lle mor fach ti methu cael dy wynt? wel, fela dwi'n teimlo wrth wrando ar radio cymru a sbio ar s4c. dwi'n gwbod, ia, bo ni'n wlad fach aballu. os nad yw hi'n fawr ma hi'n ddigon. ffycin reit, digon i neud i chdi chwdu. radio cymru. teitl urddasol. radio i gymru, ein gwlad. radio genedlaethol yn yr iaith frodorol. swnio'n eang ac yn urddasol iawn tydi? ond plis, plis, gadewch i ni fod yn onast. be ydi radio cymru mewn gwirionadd? hospital radio? wel, ella, ond ma gin i ofn ma dim ond yn y terminal ward ma hi i'w chlywad erbyn hyn. cymerwch wedyn y dywediad "pysgod mawr mewn pwll bach". ddim cweit, mwy fel morfilod mawr mewn sosar. iawn, ma jonsi di mynd, am pa bynnag reswm, ond ydi hynny wedi gwella'r sefyllfa? gofyn ydw i. ma 'na leisia newydd yn y bora hefyd. un o'n prif gantorion pop ni yn d-jeio. gret. dim problem yn fanna. wedyn ma'r broblem yn dod, pan glywch chi ma'r record gynta yn y rhaglen sy'n dilyn ydi un o ganeuon y dj o'r rhaglen flaenorol. ac ma nhw'n dal i bentyrru oria o sylw i operau sebon a rhaglenni teledu saesneg, yn cael eu cyflwyno gen rhyw ddyn oedd unwaith yn trapeeze artist, ne lion tamer ne rwbath. ac yn lle jonsi a'i gacan joclet a'i gyulleidfa o 200 o wragedd rhwystredig dros 70 oedd i gyd yn byw hannar awr i ffwrdd o'i gilydd, be sgynno ni rwan? CLWB GWAU! clwb ffycin GWAU! ond rhen hogia 'na o bendraw byd sy di gweld hi bois bach. ma gennyn nhw sioe ar nos sul, ac ma nhw'n chwara eu recordia eu hunain. be ydi hynny dwch? menter ta jest ffwcin cheek? dudwch chi! sawl gwaith dw i di clywed nhw " dyna chi, 'rhen Dwight Yoakam, rhen hogyn o Nashful Teni-siii, yn fana, ew, da di'r hen 'ogia hetia cowboi ma te?" "ew, ia, mi fu gin i un unwaith sti. . . ." " be, het gowboi?" "duw, ia, 'i hennill hi yn y mariiiin leeeec 'na yn rhen Rhyl 'na nes i sti - ddudish i'r hanas wrthat ti dwad?" "do tad, ond rwan ma hi'n amsar am gan arall. un o'n caneuon ni, am tsjeeenj. be di hon dwad, y drydedd heno? ta'r bedwaradd? ta waeth, dyma chwa. . . . ." wel dyna ddechra son am radio cymru, ond ma 'na lot mwy i ddeud. es pewar ec tro nesa! mmmmmmm. . . . .


Wyt ti wedi ystyried dysgu atalnodi a pharagraffu? Mi fysa'n help mawr er mwyn i bobol ddallt be' ti'n drio ddeud.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Mer 12 Ion 2011 1:24 pm
gan Coc Oen Blin
sbia eto washi. ma pob atalnod,coma, a marc cwestiwn yn ei le. ti 'sio sbectol met. a doeddwn i ddim yn dallt fod na reol am baragraffu - ta chdi sy'n deud hynna? wyt ti erioed wedi clywed am y term anally retentive?

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Mer 12 Ion 2011 6:37 pm
gan Ramirez
Coc Oen Blin a ddywedodd:sbia eto washi. ma pob atalnod,coma, a marc cwestiwn yn ei le. ti 'sio sbectol met. a doeddwn i ddim yn dallt fod na reol am baragraffu - ta chdi sy'n deud hynna? wyt ti erioed wedi clywed am y term anally retentive?


Oce, defnyddio prif lythrennau ta. Mae 'na reswm am y petha 'ma - nes i ddim llwyddo i fynd drwy dy bost di gan ei fod o mor uffernol o anodd i'w ddarllen.



A hefyd mi oni braidd yn cranci am bo fi heb gysgu, sori.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Mer 12 Ion 2011 7:35 pm
gan ceribethlem
Coc Oen Blin a ddywedodd:ti di bod mewn lifft a teimlo awgrym o claustrphobia? ne mynd yn sownd yn dy jympyr wrth ei thynnu dros dy ben? teimlo bo chdi'n mygu, mewn lle mor fach ti methu cael dy wynt? wel, fela dwi'n teimlo wrth wrando ar radio cymru a sbio ar s4c. dwi'n gwbod, ia, bo ni'n wlad fach aballu. os nad yw hi'n fawr ma hi'n ddigon. ffycin reit, digon i neud i chdi chwdu. radio cymru. teitl urddasol. radio i gymru, ein gwlad. radio genedlaethol yn yr iaith frodorol. swnio'n eang ac yn urddasol iawn tydi? ond plis, plis, gadewch i ni fod yn onast. be ydi radio cymru mewn gwirionadd? hospital radio? wel, ella, ond ma gin i ofn ma dim ond yn y terminal ward ma hi i'w chlywad erbyn hyn. cymerwch wedyn y dywediad "pysgod mawr mewn pwll bach". ddim cweit, mwy fel morfilod mawr mewn sosar. iawn, ma jonsi di mynd, am pa bynnag reswm, ond ydi hynny wedi gwella'r sefyllfa? gofyn ydw i. ma 'na leisia newydd yn y bora hefyd. un o'n prif gantorion pop ni yn d-jeio. gret. dim problem yn fanna. wedyn ma'r broblem yn dod, pan glywch chi ma'r record gynta yn y rhaglen sy'n dilyn ydi un o ganeuon y dj o'r rhaglen flaenorol. ac ma nhw'n dal i bentyrru oria o sylw i operau sebon a rhaglenni teledu saesneg, yn cael eu cyflwyno gen rhyw ddyn oedd unwaith yn trapeeze artist, ne lion tamer ne rwbath. ac yn lle jonsi a'i gacan joclet a'i gyulleidfa o 200 o wragedd rhwystredig dros 70 oedd i gyd yn byw hannar awr i ffwrdd o'i gilydd, be sgynno ni rwan? CLWB GWAU! clwb ffycin GWAU! ond rhen hogia 'na o bendraw byd sy di gweld hi bois bach. ma gennyn nhw sioe ar nos sul, ac ma nhw'n chwara eu recordia eu hunain. be ydi hynny dwch? menter ta jest ffwcin cheek? dudwch chi! sawl gwaith dw i di clywed nhw " dyna chi, 'rhen Dwight Yoakam, rhen hogyn o Nashful Teni-siii, yn fana, ew, da di'r hen 'ogia hetia cowboi ma te?" "ew, ia, mi fu gin i un unwaith sti. . . ." " be, het gowboi?" "duw, ia, 'i hennill hi yn y mariiiin leeeec 'na yn rhen Rhyl 'na nes i sti - ddudish i'r hanas wrthat ti dwad?" "do tad, ond rwan ma hi'n amsar am gan arall. un o'n caneuon ni, am tsjeeenj. be di hon dwad, y drydedd heno? ta'r bedwaradd? ta waeth, dyma chwa. . . . ." wel dyna ddechra son am radio cymru, ond ma 'na lot mwy i ddeud. es pewar ec tro nesa! mmmmmmm. . . . .

Rap yw hwn?

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Maw 18 Ion 2011 11:29 pm
gan zorro
Sylwch pa mor aml mae'r pobl anffodus sydd yn cyrraedd ein tonfeddi cenedlaethol (wedi ffonio i gynnig barn neu cystadlu mewn cystadleuaeth) â rhywbeth yn bod â nhw.

Pa mor aml chi 'di clywed y geiriau.." diolch Geraint...'rwy methu symud achos mae gen i athritis" neu " O Hywal, chi'n gysyr i hen wr sydd wedi colli ei goes " neu fi'n gwrando pob dydd Nia, ers i mi gael clywed bod fi'n methu symud o'r gwely"

'Rwy'n credu fod yr achosion bell dros y cyfartaledd cenedlaethol.

Efallai fod hi'n amser ail fedyddio ein gorsaf genedlaethol yn Radio Dignitas......er wedi meddwl, mae Dignitas yn eich galluogi i farw gyda balchder ag urddas !

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2011 12:09 am
gan Duw
Wel dim ond pobl â rhywbeth sy'n bod arnyn nhw sy'n gwrando i Mr. Lloyd. Dim syndod. Pan gâf y pwl nesa o gowt, na'i diwno mewn.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2011 8:13 am
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Wel dim ond pobl â rhywbeth sy'n bod arnyn nhw sy'n gwrando i Mr. Lloyd. Dim syndod. Pan gâf y pwl nesa o gowt, na'i diwno mewn.

Mae Radio Cymru mlaen pan fyddai'n gadel yr ysgol. Pan oedd Jonsi mlan, odd e'n hala fi i newid sianel yn syth. Gyda LLoyd allai gyrraedd yn agos at Bontardawe cyn gorfod newid.
Mae gen i CD MC Mabon yn y car, felly os yw pethe'n mynd yn drech na fi allai wostod hwpo "mythyrfycyrs ym mhob man" mlan.

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Ion 2011 9:19 pm
gan dynhoyw
Er mwyn Dyn bobol, nid ar gyfer y criw bach dethol sy'n postio yma ar maes-e yn unig y mae Radio Cymru'n darlledu. Mae'r agwedd 'ma taw dim ond pobl ifainc neu bobl "fatha ni" sy'n bwysig yn drewi!!!!

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Sad 22 Ion 2011 8:58 pm
gan tom.j
dynhoyw a ddywedodd:Er mwyn Dyn bobol, nid ar gyfer y criw bach dethol sy'n postio yma ar maes-e yn unig y mae Radio Cymru'n darlledu. Mae'r agwedd 'ma taw dim ond pobl ifainc neu bobl "fatha ni" sy'n bwysig yn drewi!!!!


Na - ar gyfer criw bach dethol hen ffasiwn a stuck -up - dyna yw Radio Cymru. Dwi'n cytuno bo'r Clwb Gwau yn syniad gwaeth na chlwb y loris. Dyle Geraint Lloyd ddim fod yn agos at stiwdio radio. Tase fe ddim yn siarad Cymraeg byse dim gobaith iddo fe lwyddo yn y byd darlledu. Na - os dwi yn y car yr amser yna o'r dydd Radio 2 sy' mla'n gyda fi bellach. Byse Daf Du yn well hefyd ar ben ei hun yn y bore yn lle gorfod gwrando ar y g'lomen Caryl Parry Jones 'na yn porthi wrth ei ymyl. Bring back Eleri Sion weda i. Nia Roberts.....boring....ma'r cwis geiriau 'na gyda Nigel Owens yn gachu llwyr -hiwmor y 60au gyda Geraint 'Paid a chanu' Lovegreen a Lyn 'Dwi erioed di bod yn ffraeth' Ebenezer.......a phwy ddiawl feddyliodd am gyfres coginio ar y radio?????? Ma problem gyda Radio Cymru. Oes rhywun yn gwybod faint o bobl sy'n gwrando ar yr orsaf dyddie 'ma?

Re: Beth FF*c sydd yn digwydd yn Radio Cymru ?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Chw 2011 2:06 am
gan zorro
Newydd fod i ffwrdd dramor a threulio bythefnos yn gwrando ar orsafoedd radio lleol fesul eu cannoedd, a phob un yn dangos mwy o ffydd, gwreiddioldeb, ymroddiad a dychymyg na Radio Cymru.. Gan ystyried eu bod i gyd yn gweithredu yng nghanolfan gwleidyddol ac eithafol ein democratiaeth , mae'n anodd cadw eich pen yn uchel a dalau dros fwy . Eto, Radio Cymru, a gan fy mod newydd ddychwelyd o'm gwyliau a felly mewn hwyliau da !! : Ga'i ofyn yn gwrtais i chi .

Gymerid cam yn ôl,
Edrych a dadansoddi yr hyn 'da chi'n wneud,
Chwynnu a thorri'r gwastraff amlwg sydd yn bodoli ymysg eich amserlen ac anelu tuag at Radio Cymru sydd yn adlewyrchu Cymru gyfan ( a 'rwy'n sôn yn wrthrychol yma fel un sydd yn byw yn y Gogledd ond â chysylltiadau gyda chyfeillion gwbl anfodlon yn y De),
!!