Arlwy Nadolig S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Arlwy Nadolig S4C

Postiogan tom.j » Gwe 24 Rhag 2010 10:39 pm

Mae'r sianeli mawr yn cadw eu rhaglenni/ffilmiau gorau ar gyfer y Nadolig - beth sydd gyda S4C ar ein cyfer? Ffordd handi o ail ddangos C'Mon Midffild heb bo neb yn cwyno. 40 clip gorau C'Mon Midffild! 20 noswyl y Nadolig ac 20 noson Nadolig. Da iawn S4C - yn gorffen y flwyddyn mwya erchrydus yn hanes y sianel gydag ail ddangosiad!! Ar ben hyn oll dros awr o Bryn Terfel yn hysbysebu ei CD newydd Nadoligaidd!!! Dwi'n siwr bo cwmni recordiau Bryn yn falch dros ben. Argh!!!!! Ble mae'r brandi a'r mins peis????
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan anffodus » Sad 25 Rhag 2010 2:13 am

Heb anghofio Ioan Gruffudd yn dilyn hanes y meerkat! Be ddiawl?! Ma rhaid bod y person gynigiodd y syniad yna'n cymyd y piss!
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Duw » Sad 25 Rhag 2010 9:42 am

Hmmm, efallai S4C yn trio arbed arian - pwy sydd ar ol i'w wylio? Gyda'r goreuon o'r goreuon ar bob sianel, sut alliff gystadlu? Am 7 o'r gloch heno, dwi'n rhagweld 17 person yn tiwno mewn (8 ohonyn nhw yn myfyrywr a arhosodd yn Aber dros y gwyl ac yn mynnu peint yn y Llew Du). :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Josgin » Sad 25 Rhag 2010 12:08 pm

Beth ? - Nid yydynt wedi gwneud ffilm o 'blockbuster' diweddaraf Kate Roberts neu Islwyn Ffowc Ellis ? . O lle y daw fy adloniant a boliad o chwerthin eleni ? .
Mae'r cyfresi newydd yma 'Fo a fe' a 'C'mon Midffild' yn edrych yn newydd a chyfoes. Diolch byth am dalent di-ben draw cyfryngwyr Caerdydd - mae'r bobl yma wedi slafio am nesaf peth i ddim am flynyddoedd dros y genedl, ac yn awr maent yn cael eu haeddiant llawn.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan bed123 » Sad 25 Rhag 2010 12:47 pm

I fod yn deg i S4C, does yna ddim byd yn sefyll allan ar y sianeli eraill chwaith. Does na ddim un rhaglen yn wir mynd i gadw fi fewn y ty. Llawn o ripits a rhaglenni sy wedi cael eu wneud am nesa peth i ddim. O leiaf fydd yr Meercats yn eitha ciwt. Sy neud newid o gwynebu Bryn T a Dai Llanilar.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Josgin » Sad 25 Rhag 2010 1:44 pm

Erbyn meddwl - mi fuasai pethau wedi gallu bod yn waeth - ail-ddarlledu 'Madam wen' , 'Hedd Wyn' neu 'Traed mewn cyffion' .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan tom.j » Sad 25 Rhag 2010 4:50 pm

Y Dyn Na'th Ddwyn Y Nadolig.....ail ddangosiad o S4C yn trio neud miwsical 'hollywoodaidd' gyda cheiniog a dime. Edrych mor tsiep - actio gwael, dawnsio gwaeth a Meic Povey!!!! Say no more! Wedi chwarter awr roedd yn rhaid newid y sianel...diolch i Dduw am Shrek 3!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Josgin » Sad 25 Rhag 2010 5:00 pm

Dya'r peth , dwi'n ofni. Mae'r byd darlledu, a'i wylwyr wedi symud ymlaen. Dwi'n cofio gweld ' Y dyn nath ddwyn y Dolig' , ac eithaf mwynhau y peth. Ni fuaswn yn meiddio ei gynnig i fy mhlant, yn anffodus. Mae gennym sianel lle mae hi'n 1982 am byth . ( a yw'r botwm rhif 4 ar fy nheledu yn dangos S4C ' plwm ' yn barhaol ? - ydi'r sianel Gymraeg gyfoes, gyffrous , ddifyr , wreiddiol , unfed-ganif ar hugain ar gael yr ochr arall i Babestation ? ) .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Duw » Sad 25 Rhag 2010 10:44 pm

Wyt ti'n awgrymu ffilms coch yn y Gymraeg, Jos? Talwn i weld hwnna. Sion Cartrefi a'i bidyn 14" yn bwrw twll newydd mewn Tresi Arglwyddi! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Arlwy Nadolig S4C

Postiogan Chickenfoot » Sad 25 Rhag 2010 11:04 pm

Josgin a ddywedodd:Dya'r peth , dwi'n ofni. Mae'r byd darlledu, a'i wylwyr wedi symud ymlaen. Dwi'n cofio gweld ' Y dyn nath ddwyn y Dolig' , ac eithaf mwynhau y peth. Ni fuaswn yn meiddio ei gynnig i fy mhlant, yn anffodus. Mae gennym sianel lle mae hi'n 1982 am byth . ( a yw'r botwm rhif 4 ar fy nheledu yn dangos S4C ' plwm ' yn barhaol ? - ydi'r sianel Gymraeg gyfoes, gyffrous , ddifyr , wreiddiol , unfed-ganif ar hugain ar gael yr ochr arall i Babestation ? ) .


Soniodd fy mam heddiw, wrth i ni wylio eitem newyddion am y pab yn siarad hefo'i marks o'r Vatican, y bydda'r Eglwys Gatholig yn ddenu mwy o bobol ifanc pe tasa dyn ifanc yn y hot seat.

Pryd hynny, ges i syniad chwyldroadol. Gwell, hyd yn oed, na chael gwersi graenu iaith...

Beth am yn cael diwrnod yng nghwmni Elin Fflur di wisgo fel Mrs Claus, ac yn cyflwyno pob sioe, tebyg i arwyyr continuity HTV ers talwm? Well na Babeorsaf yn fy marn i.



Mae edrych ar beth sy' 'mlaen ar S4C dyddiau 'ma'n neud i mi deimlo'n reit canologol. Cytunaf hefo pawb sy'n son am ariannu a diffyg diddordeb yn yr holl raglenni sydd eisioes wedi bod ymlaen.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron