Tudalen 1 o 1

Taith Tren Hamddenol i Gaergybi.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 12:15 am
gan Mali
Oes 'na rywun arall wrthi'n gwylio 'Great British Railway Journeys' yr wythnos yma ? Mae cyflwynydd y rhaglen , Michael Portilo yn dilyn siwrna yr Irish Mail , gan aros mewn mannau dioddorol ar y ffordd. Hefyd yn gwneud 'detour' bychan i Llanrwst a Llanberis. Wedi gweld dwy raglen yn barod ac fel un sydd a diddordeb mawr mewn trenau , wedi mwynhau yn fawr iawn . Heno dwi am wylio'r un o Gaer i Gonwy . :D
Os da chi 'di colli rhai ohonynt , mae nhw ar gael ar http://www.golyg.com

Re: Taith Tren Hamddenol i Gaergybi.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 2:28 pm
gan Doctor Sanchez
Do dwi di bod yn sbio arno fo, yr un lle mae o'n defnyddio guide Bradshaw o 1840 i fynd rownd Prydain. Dwi wrth ym modd efo fo. Oedd y fictorians yn uffar o bobl i ddeud gwir. Ma gin i ddiddordeb mewn rwbath i neud efo Brunel neu Telford, a'r peiriannwyr o'r cyfnod yna. I feddwl bod nhw di medru gneud y box tunnel, Pont Clifton, Bont Borth a Pontcysyllte efo dim ond deinameit, ceffylau a phobol yn reit anhygoel.

Re: Taith Tren Hamddenol i Gaergybi.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 5:07 pm
gan Mali
Falch o glywed dy fod ti'n mwynhau'r gyfres hefyd. :D Mae'r hanes yn ddiddorol dros ben , a'r golygfeydd yn drawiadol hefyd. Diddorol oedd sylwi fod Portillo yn dweud Conwy yn hytrach na Conway.....da iawn fo !
Fe ddyliwn i ychwanegu ei fod yn mynd i Llanrwst , Blaenau Ffestiniog a Porthmadog hefyd , cyn gwneud ei ffordd i Gaergybi.
Edrych ymlaen .... :)

Re: Taith Tren Hamddenol i Gaergybi.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 6:06 pm
gan Josgin
Mi glywais i stori unwaith fod boi lleol wedi cywiro rhai o symiau Telford ynghylch nodweddion 'Load bearing' y bont - neu byr iawn fuasai ei hoes ! .
Cofier mai Stephenson adeiladodd pont y rheilffordd dros y Fenai - tua 30 mlynedd ar bont Borth .
Y 'tiwb' oedd hon ers talwm , pont Britania bellach. Bu rhaglen ar 'Quest' arni unwaith (ailddarllediad , dwi'n meddwl) , ac un peth a ddangoswyd oedd tu mewn y pileri enfawr. Mae'r pensarniaeth yn arbennig. Yn anffodus, mae'r 4 llew tew ar goll mewn mieri bellach.