Tudalen 1 o 1

TEULU

PostioPostiwyd: Llun 17 Ion 2011 12:39 am
gan tom.j
Cyfresi da ar y BBC ar hyn o bryd fel Hustle a Zen - felly pam oes rhaid i ni wylwyr S4C ddiodde cachu fel TEULU!! Cymeriadau plastig ac ysgrifennu gwael. Atgoffa fi o operau sebon o Awstralia. Gobeithio bydd ALYS yn well.

Re: TEULU

PostioPostiwyd: Llun 17 Ion 2011 8:40 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n licio Teulu. So ddêr.

Re: TEULU

PostioPostiwyd: Llun 17 Ion 2011 10:32 am
gan Furryboots
Dwi'n meddwl fod 'na resyma i licio Teulu ond ma'n rwystredig ar y diawl weithia. Ma pob un o'r cymeriadau (bron) yn hollol hateful ac er fod yna ryw hwyl i gael yn hynny ma rhywn yn teimlo fod ymateb y cymeriada i'w gilydd yn anhebygol a deud y lleia. Gormod o siarad a dim digon yn actually digwydd. Ma Aberaeron yn le braf, ffotogenic, ac er fod y cymeriada'n 'blastig' ma na rywbeth compelling am y peth. Ma'n debyg fod y peth yn hynod o boblogaidd (so far) felly ma'n rhaid bod rhywbeth yn cael ei 'neud yn iawn.

Dim digon o Gaynor Morgan Rees (angen mwy o hen bobol), siomedig efo Matthew Gravelle sy'n actor da (upstaged by a bad wig), a cymeriad Rhys ap Hywel yn hollol toxic. Y Doctor newydd yn offwl, rhowch iddo glefyd marwol. Ma'r swennu'n ddiog ar adegau (surely gall MP neud yn well na hyn) ond dwi'n meddwl yn y bôn taw sebon ydi o - a does dim o'i le ar sebon. Angen rhywbeth i gystadlu efo Pobol y Cwm - falle taw dyma'r ateb ond. . . ma angen ei alw'n rwbath blaw am 'Teulu', achos nid dyna ydio bellach naci? Aberaeron di seren y sioe ac ma angan gweld mwy o'r lle. Beth am y stondyn sgodyn? Y lle hufen ia 'na? Y bobol sgota? Ma'n rhaid fod yna fwy o botensial na'r hopscotchio rhwng gwlau di baid. Rwm for imrwfment ond mi fydda i'n dal i wylio flwyddyn nesa.

Re: TEULU

PostioPostiwyd: Llun 17 Ion 2011 12:26 pm
gan prypren
Ffan mawr o Teulu, yn gwylio bob pennod. Opera Sebon ydio, a'r cymeriadau a'u sgwrsus yn gwbwl annhebygol, ond yn bwysicach na dim mae'r gyfres yn diddanu, hiwmor a lot o rhyw, ffantastic