shitclic
Postiwyd:
Sul 23 Ion 2011 5:55 pm
gan Gog y Cwm
(Oddi) Ar y Tracs, Gari Tryfan, Deadenders, Ewings Aberaeron, Feirm Factor yn
http://shitclic.blogspot.com/
Re: shitclic
Postiwyd:
Sul 23 Ion 2011 9:55 pm
gan Furryboots
Pwy ydi'r idiot sy'n sgennnu'r blog yma? Rhyw g0c0en a 'thing' am y gennod. Gari Tryfan? Cringe ffest llwyr - eto. Dyfynaf y lol ar shitclic. Aptly named.
Ar ôl lladd ar y ffilm gyntaf yn seiliedig ar greadigaeth enwog Idwal Jones (neu “wedi selio ar gymeriadau Idwal Jones” yn ôl rhestr gloi’r rhaglen - fel selotep felly?!), fe wnes i wir fwynhau Gari Tryfan a’r Drych i’r Gorffennol ddydd Calan, gyda hen farbwr gwaedlyd, mynach mileinig Ystrad Fflur, pwdl trafferthus a lot o ddoniolwch wrth i’r hen dditectif traddodiadol o’r 1950au ddal i geisio dygymod â’r bywyd dinesig modern yn 2010 - oll wedi’u lapio mewn awyrgylch film noir i gyfeiliant cerddoriaeth iasol. Wedi anfantais y ffilm gyntaf o gyflwyno cymeriadau o’r newydd inni, roedd y gwrthdaro a’r gwamalu cyson rhwng Gari Tryfan (Richard Elfyn) sy’n ysu am sigarét a phaned dda, a Cai (Huw Rees) gyda’i Wenglish a’i jôcs sâl - a’r hyfryd Leusa (Catherine Ayres) yn y canol - yn wych y tro hwn.
Ma'r peth yn warth. Sw ni'n ofalus iawn am bostio petha MOR bositif am y gennod i gyd - ym mhob adolygiad. . . .sglyf.
Newydd orfod stopio gwylio Alys tho. Mewn sioc. Rhywbeth da, diddrol, newydd. Gwell i mi fynd i ngwely.
Re: shitclic
Postiwyd:
Llun 24 Ion 2011 9:28 am
gan Hogyn o Rachub
Aaahahaha 'snam gwell na darllan llith gan fasdad blin fora Llun de sy'n amlwg yn darllan pethau jyst er mwyn weindio'i hun i fyny.
Go wir wan.