Tudalen 1 o 2

alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 11:24 am
gan prypren
Anodd credu mae'r un awdur naeth sgwennu Compassionata sydd wedi sgwennu hwn, dim cydymdeimlad a'r prif gymeriad na'r mab (oedd ddim yn siarad), cymeriadau anghredadwy (o ysgrifbin y sgwennwr nid o gig a gwaed). Troies i drosodd i Bruce Parry yn yr Antartic gyda'r morfilod ar ol gweld fat suit Ifan Huw Dafydd.

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 11:32 am
gan Hogyn o Rachub
Haha rhaid i rywun ddweud ei fod o'n ffan o'r ffatsiwt ... dyna'r unig gymeriad neshi wir cymryd ato neithiwr 'fyd. Ella bod hynny oherwydd drwy gyflwyno pob cymeriad yn y rhaglen gafon ni ddim gweld digon o neb. Dwi'm o'r farn fy hun fod angen i gymeriadau fod yn gredadwy, ond mae hynny'n dibynnu wedyn ar y rhaglen ei hun a do'n i'm yn siwr pa fath o raglen oedd hi fod.

Ond er i mi ryw fath o fwynhau neithiwr nath un peth mawr, pwysig ddim fy nharo i o gwbl ... y plot. Do'n i'm yn rhy siwr beth oedd yn digwydd am y rhan fwyaf o'r rhaglen, a dwi'm yn siwr sut mae'r rhan fwya o'r cymeriadau yn ffitio i mewn i'r holl beth. Gobeithio ddaw hynny'n gliriach nos Sul nesaf, o leia!

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 11:38 am
gan osian
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ond er i mi ryw fath o fwynhau neithiwr nath un peth mawr, pwysig ddim fy nharo i o gwbl ... y plot.

Dyna'r unig beth mawr oedd ar goll dwi'n meddwl (peth hanfodol, yn amlwg), ond dwi'n gobeithio y daw hynny w'sos nesa. O'n i'n ddigon bodlon efo hon fel pennod agoriadol oedd jysd yn cyflwyno petha

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 11:58 am
gan Furryboots
Mi oedd, ar ôl fflwff 'Teulu' a 'worthy' Pentalar yn awyr iâch. Ychydig o dywyllwch (heb fod yn rhy ddu bitch), ychydig o quirkiness heb fod yn rhy 'self regarding', a digon, jest, i nghadw i yno wythnos nesa. Set up o bennod, yr hogan yn cyrraedd, tawelwch y bachgen yn ddiddorol (so far) a dim, affliw o ddim, yn digwydd mewn gwirionedd. Beth sy'n fy mhoeni i yw taw dyma'r unig berson (Siwan Jones) a all ysgrifennu yn y Gymraeg ar gyfer y teledu a chael ei chymryd o ddifri.

Baker Boys wedyn ar sky +. Mae'n amlwg taw nid problem y Cymry Cymraeg ac S4C yw y clefyd SOF (Same Old Faces) wrth weld Mark Lewis Jones (da iawn ond blincin ec, oes rhywyn yn BBC Cymru wedi clonio'r boi) a Eve (gappy valley) Myles. . .

Angen c'chydig mwy o ddychymyg wrth gastio - 'di hynny'n ormod i ofyn?

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 12:07 pm
gan dafydd
Roedd e'n biti fod dim llawer o stori, a roedd e braidd yn ormod trio cyflwyno pob cymeriad ar unwaith. Efallai fod e'n werth meddwl am hwn fel Alys in Wonderland.. mae'r cliwiau i gyd yna a mae'n esbonio y cymeriadau lliwgar a'r elfennau swreal. Dwi'n dal i weld os fydd cwningen wen yn ymddangos, i fynd a Alys drwy'r twll yn ei wal..

Mae'r holl beth wedi ei ffilmio yn dda iawn a dwi'n credu fod cyfle i'r actorion gael tipyn o hwyl gyda'i cymeriadau.

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 12:22 pm
gan tom.j
Mi wnes i fwynhau - sort of. Braidd yn araf gyda dim yn digwydd - ond efallai dyma gwendid penod cyntaf nifer o gyfresi. Licio Sara Gregory - ond cytuno a'r uchod gyda SOF....William Thomas, Gillian Elisa, Ifan Huw Dafydd,Aneurin Huws....oes rhaid gweld yr un actorion ym mhob cyfres Gymraeg??? (gyda llaw oes gan ffat suit Ifan Huw Dafydd ystafell wisgo ei hun???)

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 6:45 pm
gan dafydd
Mae gen i ddamcaniaeth ynglyn a'r rhaglen. Dyma'r stori mor belled: heb gyflwyniad, mae Alys yn cyrraedd mewn tacsi. Mae'n cael allwedd i fynd i'w fflat. Mae yna dwll yn wal y fflat. Bob tro mae Alys yn syllu ar y twll mae yna 'ôl-fflachiad' lle mae hi'n cofio'i bywyd yng Nghaerdydd (a phan oedd hi'n pasio'r twll yn y ffordd). Rydyn ni'n gweld Alys a'i chariad mewn car a mae nhw'n cael damwain.

Ydi Alys dal yn fyw neu mewn coma? Ydi hi wedi creu y byd hudol yma yn ei phen? Ie mae'n syniud tebyg iawn i Life on Mars dwi'n gwybod. Ar hyn o bryd mae'r ddrama wedi dangos llawer o gymeriadau tu allan i fywyd Alys felly dwi ddim yn siwr os ydi'r byd yn cael eu greu ym mhen y prif gymeriad. Sut mae Alys am ddychwelyd i'w bywyd go-iawn? Oes rhaid iddi fynd drwy'r twll? A fydd yna gwningen wen yn ei helpu hi?

Does gen i ddim syniad os yw'r ddamcaniaeth uchod yma yn iawn. Mi fase'n wych os oedd yna elfen ffantasïol ac uchelgeisiol fel hyn i'r ddrama. Faint o elfennau felly oedd yn Con Passionate? (Wnes i ddim gwylio hwnnw). Efallai mai stori weddol syml sydd yma, er mae'n bosib fydd digon o haenau yn y ddrama i fi allu greu stori fy hun.

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 9:55 pm
gan Furryboots
Syniada diddorol - meddwl â'i nôl i wylio eto. Anghofio deud - ma Sarah Gregory'n dda iawn. Anodd credu 'i bod hi'n rhannu genes efo'r brodyr Gregory. Rhaid bod y talent wedi sgipio cenhedlaeth. Miaw.

Re: alys

PostioPostiwyd: Gwe 04 Chw 2011 3:37 pm
gan tom.j
Wedi dod i'r canlyniad wedi dwy bennod o Alys ei fod yn gyfres diflas iawn. Beth yn union sydd wedi digwydd o fewn y ddwy bennod dwetha....DIM LOT. Uchafbwynt - Sara Gregory, Chwerthynbwynt - Ffat Siwt Dic Deryn (roedd gweld e'n eistedd ac yn neidio ar Aneurin Huws yn atgoffa fi o It's A Knockout ers talwm - roeddwn i'n disgyl clywed llais Stuart Hall yn neud y sylwebaeth!). Ambell i actor da ond ambell i actor gwael hefyd. Ddim yn siwr os na'i wastraffu mwy o amser yn ei wylio. Baker Boys a Being Human mlaen yr run pryd - a ma' nhw llawer mwy difyr.

Re: alys

PostioPostiwyd: Sul 06 Chw 2011 4:04 pm
gan ceribethlem
Fi'n joio fe. Edrych mlan i'r drydedd bennod heno.