Tudalen 2 o 2

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2011 9:29 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi ddim yn mwynhau lot i fod yn onast. Ond gan ddweud hynny, o ran y cyntaf, yr ail, a hefyd y drydedd rhaglen, mae'n rhoi jyst abowt digon i mi fod isho gwbod be sy'n digwydd yn y nesaf!!

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2011 5:51 pm
gan ceribethlem
Fi dechre aros i rwbeth i ddigwydd nawr. 'Na gyd sy'n digwydd yw fod Alys yn shelffo rhyw foi, mae'r boi lan llofft yn nyts, ac mae'r holl grachach yn dechre cwmpo mas a'u bywyd neis yn dechre dadelfennu.

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 21 Chw 2011 1:33 am
gan zorro
Being Human yn eithriadol o dda, ond mae Alys dal i fod yn fforsio fi iw dapio ; mor belled !!

Re: alys

PostioPostiwyd: Llun 21 Chw 2011 10:13 am
gan ceribethlem
Joies i fe neithiwr. Mae'r gwahanol storie i weld yn dechre mynd rhywle nawr.

Re: alys

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 9:55 pm
gan Siani Flewog
Mae'r ddwy bennod diweddar wedi bod yn lawer fwy difyr. Cyn hynny mi oeddwn bron a rhoi'r ffidil yn y to ond dwi'n falch fy mod i wedi dyfalbarhau. Mae Sara Gregory yn wych ac Aneirin Huws hefyd (dwi'n ffan mawr o AH). Y syndod mwyaf i mi oedd William Thomas, dwi erioed wedi bod yn hoff ohono fel actor ond yn y gyres mae o'n gret.

Ym mha dref mae'r ddrama wedi'i ffilmio?

Re: alys

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2011 10:04 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n credu yn Aberhonddu y mae wedi'i ffilmio, Siani

Re: alys

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2011 2:16 pm
gan osian
Mai wedi ei ffilmio mewn sawl lle, yn fwriadol fel nad ydi'r dref yn gallu cael ei nabod. Aberhonddu, Barri, ac ambell i le arall, dwi'm yn cofio.

Re: alys

PostioPostiwyd: Sul 20 Maw 2011 11:02 pm
gan Siani Flewog
Diolch Hogyn o Rachub ac Osian, Aberhonddu ydy'r dre' ddeniadol dwi'n siwr ac sy'n nodweddiadol o'r canolbarth.