I'R GAD! HANES CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG 1963-2003

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

I'R GAD! HANES CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG 1963-2003

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 09 Ion 2003 1:37 am

Ymlaen ar nos Iau 09/01/03 am 21.00 - Pwy luniodd y teitl snappy? ....

O http://www.s4c.co.uk:

I'R GAD! HANES CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG 1963-2003

Cymdeithas yr Iaith fu mudiad iaith pwysicaf dros gyfnod o 40 mlynedd, ond pa ddyfodol sydd gan y Gymdeithas? Wrth i'r mudiad nesu at ei 40 oed fis nesaf, fe fydd y gyfres I'r Gad! Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1963-2003 yn gofyn a ydy hwn yn oed unrhyw addewid i'r mudiad?

Dyma un o nifer o gwestiynau a godir gan yr hanesydd, Yr Athro R Merfyn Jones, yn y gyfres bedair pennod hon. Bydd e'n croniclo hanes y mudiad o ddyddiau'r sefydlwyr cynnar a ysbrydolwyd gan ddarlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, i'r cyfnod presennol ac ymgyrchoedd mwy pellgyrhaeddol dros gynllunio cymdeithasol, addysg Gymraeg a deddf iaith newydd.

9:00pm
DYDD IAU
TRANSL888/889
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 09 Ion 2003 10:38 pm

Da iawn! Mwynhau'n arw a'n edrach 'mlaen at y rhaglen nesaf!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 11 Ion 2003 9:21 pm

Wi'n gobitho neith na ddau beth ddeillio o'r gyfres:

1. Bod yn ysbrydoliaeth i'r aelodau presennol fod yn fwy gweithgar

2. Ysgogi rhai nad sy'n aelodau i ymaelodi


Bydd 'suplement' gan y Gymdeithas yn Y Cymro a Golwg o fewn yr wythnosau nesaf, bydd yna daflen ymaelodi newydd ynddi ble gall yr aelodau dicio sut y medrant/hoffant gyfrannu at y gwaith.

PAWB I DDANFON HI NOL PLIS!!!!

Yn wahanol i Gymuned ni fydd yna flwch ticio gogyfer "JCB neu 4x4" nac ychwaith gogyfer "bod yn aelod o 'flying picket' Cymuned" !!!!!!!!!!!!!

hwyl,

Rhys
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai