Ymlaen ar nos Iau 09/01/03 am 21.00 - Pwy luniodd y teitl snappy? ....
O http://www.s4c.co.uk:
I'R GAD! HANES CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG 1963-2003
Cymdeithas yr Iaith fu mudiad iaith pwysicaf dros gyfnod o 40 mlynedd, ond pa ddyfodol sydd gan y Gymdeithas? Wrth i'r mudiad nesu at ei 40 oed fis nesaf, fe fydd y gyfres I'r Gad! Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1963-2003 yn gofyn a ydy hwn yn oed unrhyw addewid i'r mudiad?
Dyma un o nifer o gwestiynau a godir gan yr hanesydd, Yr Athro R Merfyn Jones, yn y gyfres bedair pennod hon. Bydd e'n croniclo hanes y mudiad o ddyddiau'r sefydlwyr cynnar a ysbrydolwyd gan ddarlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, i'r cyfnod presennol ac ymgyrchoedd mwy pellgyrhaeddol dros gynllunio cymdeithasol, addysg Gymraeg a deddf iaith newydd.
9:00pm
DYDD IAU
TRANSL888/889