Tudalen 1 o 1

CADEIRYDD NEWYDD S4C

PostioPostiwyd: Llun 21 Chw 2011 1:42 am
gan zorro
Wedi i'r cŵd ( Rheon Thomas) sydd mewn grym ar hyn o bryd ceisio ein hargymell ( mewn erthygl yng nghylchgrawn Golwg ) fod staff S4C yn llawer hapusach ers iddo ef ddechrau rhedeg y sioe ym Mharc Tŷ Glas, efallai ddylai pawb ( gan gynwys Golwg) ofyn i'r staff beth yn wir yw eu teimladau ???

Efallai bydd yr ymateb yn eich synnu !!!! Wedi'r cyfan, 'roedd Rheon yna yn ystod y cyfnod pryd cafodd y drwg i'w weithredu a phrofodd o flaen y select committee fod e ddim yn gymwys i'r swydd heb amheuaeth !!!

Re: CADEIRYDD NEWYDD S4C

PostioPostiwyd: Llun 21 Chw 2011 1:41 pm
gan Carwyn Fowler
Hapus i siarad gydag unrhywun er mwyn cael safbwyntiau gwahanol - wedi anfon manylion cyswllt at Zorro.

Yn gywir,

Carwyn Tywyn

(Gohebydd ffrilans dros gylchgrawn Golwg)

Re: CADEIRYDD NEWYDD S4C

PostioPostiwyd: Gwe 25 Chw 2011 12:41 am
gan zorro
Diolch Carwyn, sori wedi bod allan o'r wlad felly dim ond wedi derbyn dy neges. 'Doedd fy sylwadau ddim yn feirniadaeth arnat ti fel newyddiadurwr, ond yn hytrach yn sylw ar haerllugrwydd rheolwyr S4C hyd yn oed ar yr adeg cythryblus yma. Fyddai efallai yn syniad i ofyn barn yr Undeb Llafur sydd yn weithredol yn S4C am eu barn nhw, gan fydd hi'n anodd i ti gael ymateb oddi wrth aelod o staff yn uniongyrchol : PARTH y 40 fydd yn colli eu swyddi oherwydd strategaethau a toriadau diweddar.
Yn bersonol, mae'r holl fater ac ymateb y cadeirydd dros dro yn tanlinelli strategaeth amaturaidd S4C ac yn brawf o'u gallu anhygoel i gladdu'u pennau yn y tywod (neu concrid yn yr achos yma) .

Laters !!