Gêm banel newydd S4C - .CYM

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan teleriteledu » Maw 01 Maw 2011 6:14 pm

Hwn oddi ar wefan S4C

.cym

* Dydd Gŵyl Dewi, nos Fawrth 1 Mawrth am 22:00

Chwerthin am ben ein hunain ar Ddydd Gŵyl Dewi

Cawn ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda digon o chwerthin ar S4C drwy fwynhau dwy raglen gomedi newydd sbon yn arbennig.

Mae'r gêm banel newydd sbon .cym yn sicr o godi gwên wrth i ni dynnu coes a dychanu pethau sy'n ddigon od am Gymru a'r Cymry.

Bydd chwech o wynebau cyfarwydd yn ffurfio dau dîm ac yn llywio'r cyfan bydd Ian Gwyn Hughes. Wrth law, mae ei gynorthwywraig Tina Sparkle - perfformwraig drag mwyaf disglair Cymru!

Dyma gyfle i chwerthin ychydig arnom ni ein hunain fel Cymry, gyda gemau fel ceisio bathu gair newydd a dwli'r treigliadau. Cawn olwg newydd ar y dwl a'r doniol yn ein mytholeg Gymreig a'r hen chwedlau, a chwarae'r hoff gêm Gymreig honno - pwy sy'n perthyn i bwy?

Drwy gydol y rhaglen, tra bydd Ian yn cadw trefn ar y cystadlu, bydd Tina wrthi'n llunio ei geiriadur unigryw ei hunan, y 'Tiniadur' - cystadleuaeth i eiriadur Bruce?
teleriteledu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Maw 01 Maw 2011 6:06 pm

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan tom.j » Maw 01 Maw 2011 11:49 pm

O bosib y cach mwya erioed ar unrhyw sianel yn y byd. Rhag cywilydd S4C am ei ddarlledu a rhag cywilydd Ceidiog am ei gynhyrchu. Mae'r rhaglen hon wedi sbwylio fy Nydd Gwyl Dewi - go iawn. Mae'r rhaglen wedi fy ngwylltio a'm tristhau. Dylai pwy bynnag oedd yn gyfrifol am ei gomisiynnu a'u gynhyrchu gael y sac - heb os nag oni bai. Gwarth.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan bed123 » Mer 02 Maw 2011 12:25 am

Tom.J. - wyt ti ddim yn ffan o .CYM felly? :p
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Khmer » Mer 02 Maw 2011 12:44 am

Da iawn ti am wylio'r sianel mor bell mewn i'r noson a hynny. Nes i rhoi fynny ryw chwarter awr mewn i rhaglen Owain Glyndwr. Pam, be oedd yn bod?
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 02 Maw 2011 9:55 am

Mi gymrodd lai na phum munud o'r rhaglen hon i mi droi'r sianel . A wnaeth unrhyw un ei gwylio yn ei chyfanrwydd?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Arthur Picton » Mer 02 Maw 2011 7:20 pm

Naddo. Rwtsh llwyr
Rhithffurf defnyddiwr
Arthur Picton
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 69
Ymunwyd: Maw 08 Maw 2005 12:57 pm
Lleoliad: Dolgellau/Caerdydd

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Josgin » Mer 02 Maw 2011 8:28 pm

Pam bod angen rhaglen 'gomedi ' i fathu geiriau newydd a cham-dreiglo ?
Mae cyflwynwyr Radio Cymru ac S4C yn gwneud hynny bob awr.
'Teleriteledu' druan. Paid a dweud dy fod yn coelio'r nonsens llwyr mae dy gyflogwyr yn rhoi i chdi .
Un peth arall nad wyf yn ei ddeall. Pam fod Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu i achub swyddi'r bobl sy'n cynhyrchu'r ffasiwn rwtsh ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Meg » Gwe 04 Maw 2011 12:26 am

Wel, dwi newydd ei wylio ar Clic i weld os ydi o mor ddrwg â hynny. Sori bois, ond nes i chwerthin. Roedd o'n wahanol ac yn eitha beiddgar.
Nid yn glasur teledu mae'n wir, ond o ran 'easy watching' efo ambell ymateb reit sydyn a ffraeth - digon difyr.
Nath y peth Mathew Rhys ddim gweithio, ond roedd y gweddill yn iawn. Wedi gweld 'cwisys' tebyg gwaeth ar deledu Saesneg.
Pawb â'i hiwmor...
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan tom.j » Gwe 04 Maw 2011 12:51 am

Meg a ddywedodd:Wel, dwi newydd ei wylio ar Clic i weld os ydi o mor ddrwg â hynny. Sori bois, ond nes i chwerthin. Roedd o'n wahanol ac yn eitha beiddgar.
Nid yn glasur teledu mae'n wir, ond o ran 'easy watching' efo ambell ymateb reit sydyn a ffraeth - digon difyr.
Nath y peth Mathew Rhys ddim gweithio, ond roedd y gweddill yn iawn. Wedi gweld 'cwisys' tebyg gwaeth ar deledu Saesneg.
Pawb â'i hiwmor...


Beiddgar? What the hell!!!!! Os nad wyt ti'n gweld taw dyma efallai y rhglen waethaf erioed i'w ddarlledu ar S4C ...sdim gobaith o's e! 'Easy Watching' - pobol dwi'n nabod di methu gwylio mwy na 5 munud ohono fe! Plis Meg - dwed bo ti'n feddw neu yn 'high' pan ysgrifennes di'r uchod. Pawb a'i hiwmor ie - ond pan nad oes hiwmor yn perthyn i hanner awr o deledu sdim dadl nag oes!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Meg » Gwe 04 Maw 2011 10:23 am

Na, Tippit oedd y gwaetha.
Ro'n i wedi cael un glasiad o win, mae'n wir, ond ro'n i'n disgwyl gweld rhywbeth wirioneddol erchyll yn sgil eich sylwadau, a doedd o ddim.
Y Tina 'na nath y peth braidd yn 'cringy', doedd dim rhaid iddi gerdded nôl a mlaen felna, sa'n well iddi aros wrth y laptop yn ffeilio'i gwinedd yn deud 'asides' bach rwan ac yn y man. Ond y gweddill... na, nes i wenu sawl tro. 5/10.
Anaml gei di raglen sy'n plesio/gwylltio pawb. Tippit wnaeth hynny.
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai