gan anffodus » Sul 06 Maw 2011 3:41 am
Ffyc mi o'dd hon yn rhaglan erchyll.
Ond y peth ydi, ma'r syniad o panel show yn un sy'n amlwg yn gweithio ac yn un ddylia gal ei neud yn gymraeg ac mi alla .Cym weithio'n anhygoel. Ond ma angan newidiada nid llai na chwyldroadol. Newid yr enw yn lle cynta - ma rhaglan y mae ei henw hi'n innuendo jyst am fod yn erchyll be bynnag dydi. Ac mi o'dd y syniad o'i gneud hi'n rhaglan ddychanol am Gymru yn wirion braidd - o'dd hi'n denu sylwada clici fatha "ma siwan jones yn rhoi gwaith i fi" a "dwi'n cofio pan nath dewi pws..." ayyb. Dwi heb wrando llawar ar Bwletin ar radio cymru ond o be dwi di glwad ma honno yn gweithio'n o lew ac yn rwbath dwi'n mwynhau gwrando arni pan dwi'n digwydd taro arni.
Rhei o'r newidiada swn i'n eu gneud ydi:
Cael gwarad o Tina Sparkle (dwi'm yn meddwl bod angan egluro)
Cael gwarad o Glyn Wise. Dydi hi byth yn syniad da cael rhywun efo llais anhygoel o annoying ar raglan deledu. Ac os oes rhaid ei gneud hi'n rhaglan sy'n dychanu Cymru yna ma rhoi un o brif byncia dychan y genedl ar raglan sy'n dychanu'r genedl yn hollol stiwpid dydi.
Dau berson ar bob panel yn hytrach na thri a chael un person ar bob tim yn rhei sydd yno ar bob rhaglen. Ma hynny'n gweithio'n wych ar Have I Got News For You. Efo chwech aelod ar y panel, mi o'dd pawb yn siarad ar draws ei gilydd ac mi o'dd pobl odd ddim yn ddoniol yn torri ar draws pobl oedd wir yn ddoniol (dwi'n siwr tasa Tony Llewelyn 'di cal mwy o gyfla i siarad y bysa fo di bod llawar doniolach nag o'dd o.) Hefyd mi fasa cael dau berson gwirioneddol glyfar a doniol yn rhoi cyfla iddyn nhw dynnu sylwada allan o banelwyr fysa weithia ychydig yn ddistaw neu ddim yn entertaining (gweler hignfy eto) ac o ganlyniad mi fysa cal pobl sydd yn enwog am wbath sydd ddim yn ymwneud a chomedi yn haws ac yn dal i fod yn ddoniol.
Os doedd 'na ddim cynulleidfa fyw yno yna mi ddylid cael un ac os oedd 'na un yno, mi ddylid ei dangos hi o bryd i'w gilydd a'i gosod hi'n nes at y panel.
Meddwl am lot fawr o gemau a rowndiau gwahanol a'u testio nhw allan o flaen cynulleidfa cyn recordio fel eu bod nhw'n gwbod be sy'n gweithio a be sy ddim.
Wedi deud hynny, ma'r syniad yn wych ac yn un ddylid ei neud ond ma rhaid dewis rhwng ei neud o'n dda neu beidio'i neud o o gwbwl.
Mi newch chi gyd sylwi bod llawar o'n syniada i'n ymdebygu i fformat Have I Got News For You ond mi fysa cal rhaglan wedi'i chopio ond wedi'i gneud yn dda ac yn ddoniol yn well o lawar na chal un wreiddiol crap (fel .Cym). Ac o'i gneud hi yn gymraeg, mi fysa 'na ongl unigryw gymreig yn ymddangos be bynnag dwi'n meddwl.
Hefyd, mi ddylid cadw Tudur Owen mor bell a phosib oddi wrth y rhaglan 'ma. A ma hynny am mod i'n meddwl bod TO yn briliant. Ond dwi'm isio iddo fo fod ar bob un rhaglan gomedi Gymraeg sy'n bodoli a dwi'm isio i'r sin gomedi gymraeg ddibynnu gormod ar un dyn.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!