Hwn oddi ar wefan S4C
.cym
* Dydd Gŵyl Dewi, nos Fawrth 1 Mawrth am 22:00
Chwerthin am ben ein hunain ar Ddydd Gŵyl Dewi
Cawn ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda digon o chwerthin ar S4C drwy fwynhau dwy raglen gomedi newydd sbon yn arbennig.
Mae'r gêm banel newydd sbon .cym yn sicr o godi gwên wrth i ni dynnu coes a dychanu pethau sy'n ddigon od am Gymru a'r Cymry.
Bydd chwech o wynebau cyfarwydd yn ffurfio dau dîm ac yn llywio'r cyfan bydd Ian Gwyn Hughes. Wrth law, mae ei gynorthwywraig Tina Sparkle - perfformwraig drag mwyaf disglair Cymru!
Dyma gyfle i chwerthin ychydig arnom ni ein hunain fel Cymry, gyda gemau fel ceisio bathu gair newydd a dwli'r treigliadau. Cawn olwg newydd ar y dwl a'r doniol yn ein mytholeg Gymreig a'r hen chwedlau, a chwarae'r hoff gêm Gymreig honno - pwy sy'n perthyn i bwy?
Drwy gydol y rhaglen, tra bydd Ian yn cadw trefn ar y cystadlu, bydd Tina wrthi'n llunio ei geiriadur unigryw ei hunan, y 'Tiniadur' - cystadleuaeth i eiriadur Bruce?