Gêm banel newydd S4C - .CYM

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Catarina » Sad 05 Maw 2011 6:41 pm

Un peth dyle S4C neud yw neud ryw fath o sioe ar Maes e!!
Er gwyb, sai'n ddim i neb yn S4C nac yn nabod neb i neud gyda .Cym, digwydd ail ymuno trwy fy nghyfeiriad ebost newydd wnes i - er sai'n gwybod pam ddylsen egluro fy hun i chi! Nid dim ond fi nath mwynhau .cym - darllenwch un Meg ag un Llew 99.
Doedd y rhaglen ddim yn berffaith ond ma fe'n cam yn y cyfeiriad iawn.
Ond wow, sai di bod ar Maes-e ers ychydig, nes i anghofio pwy mor ddiawledig o siarp ma'ch tafode chi gallu fod!
Catarina
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Sad 05 Maw 2011 8:23 am

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Manon » Sad 05 Maw 2011 8:13 pm

Mae o'n od bod pobol yn ymuno i glodfori rhaglenni newydd amhoblogaidd. Ond mae o hefyd yn od bod pobol wedi ymuno i wneud dim byd ond slagio S4C a Radio Cymru off. Mae 'na lawer o hyn yn mynd ymlaen ar y maes ar hyn o bryd. :?

Welish i mo dot cym, felly mi gaea' i 'ngheg rwan!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan CYFRYNGWR 1 » Sad 05 Maw 2011 9:53 pm

Dwi ddim yn siwr iawn beth i feddwl am y rhaglen yma.... a dwi digwydd bod yn cytuno ac yn anghytuno gyda rhai o'r sylwadau uchod.

Yn gyntaf dwi'n meddwl fod potensial gan y rhaglen i weithio ond mae angen llawer iawn o waith datblygu cyn cyrraedd pwynt o ddarlledu. Gyda lot o waith mae modd i'r rhaglen hon i lwyddo... Mae'r syniad yn un dda...

Sylwadau Cyffredinol sydd gen i yw :

1) Dwi ddim yn meddwl fod angen y cymeriad Tina Sparkle - torri ar draws y math yma o raglen - a ddim yn ychwanegu braidd dim tuag ato.

2) Safon yr elfennau technegol - Goleuo a Sain a golygu yn eitha' gwael.

3) Angen panelwyr sydd yn medru cynnal cyfnodau o saib ? - Oedd Eirlys Bellin a Donna Edwards yn gweithio go iawn ? Hefyd oes angen 3 ar bob tim - bydde 2 yn ddigon. Bydde modd newid y panlwyr i gael gwell balans hefyd a mwy o sgwrsio naturiol sgript rhyngddynt. Roedd y cyfan yn teimlo yn sgripted iawn.

4) Ddim yn siwr am Ian Gwynne Hughes fel anchor - Mae'n amlwg fod angen i raglen fel hwn cael digon o "pace" iddi . Ar adegau roedd y rhaglen hon ar stop.

5) Beth am feddwl am rowndiau newydd, gwreiddiol cyffrous ar gyfer y rhaglen ?? Beth am sialens i'r panelwyr i gael nhw ar eu traed ac yn symud o gwmpas.

6) Ddim yn siwr os oedd yna gynulleidfa - ond os oedd yna dylen nhw di dangos nhw
CYFRYNGWR 1
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 19 Hyd 2010 9:54 am

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan anffodus » Sul 06 Maw 2011 3:41 am

Ffyc mi o'dd hon yn rhaglan erchyll.

Ond y peth ydi, ma'r syniad o panel show yn un sy'n amlwg yn gweithio ac yn un ddylia gal ei neud yn gymraeg ac mi alla .Cym weithio'n anhygoel. Ond ma angan newidiada nid llai na chwyldroadol. Newid yr enw yn lle cynta - ma rhaglan y mae ei henw hi'n innuendo jyst am fod yn erchyll be bynnag dydi. Ac mi o'dd y syniad o'i gneud hi'n rhaglan ddychanol am Gymru yn wirion braidd - o'dd hi'n denu sylwada clici fatha "ma siwan jones yn rhoi gwaith i fi" a "dwi'n cofio pan nath dewi pws..." ayyb. Dwi heb wrando llawar ar Bwletin ar radio cymru ond o be dwi di glwad ma honno yn gweithio'n o lew ac yn rwbath dwi'n mwynhau gwrando arni pan dwi'n digwydd taro arni.

Rhei o'r newidiada swn i'n eu gneud ydi:
Cael gwarad o Tina Sparkle (dwi'm yn meddwl bod angan egluro)
Cael gwarad o Glyn Wise. Dydi hi byth yn syniad da cael rhywun efo llais anhygoel o annoying ar raglan deledu. Ac os oes rhaid ei gneud hi'n rhaglan sy'n dychanu Cymru yna ma rhoi un o brif byncia dychan y genedl ar raglan sy'n dychanu'r genedl yn hollol stiwpid dydi.
Dau berson ar bob panel yn hytrach na thri a chael un person ar bob tim yn rhei sydd yno ar bob rhaglen. Ma hynny'n gweithio'n wych ar Have I Got News For You. Efo chwech aelod ar y panel, mi o'dd pawb yn siarad ar draws ei gilydd ac mi o'dd pobl odd ddim yn ddoniol yn torri ar draws pobl oedd wir yn ddoniol (dwi'n siwr tasa Tony Llewelyn 'di cal mwy o gyfla i siarad y bysa fo di bod llawar doniolach nag o'dd o.) Hefyd mi fasa cael dau berson gwirioneddol glyfar a doniol yn rhoi cyfla iddyn nhw dynnu sylwada allan o banelwyr fysa weithia ychydig yn ddistaw neu ddim yn entertaining (gweler hignfy eto) ac o ganlyniad mi fysa cal pobl sydd yn enwog am wbath sydd ddim yn ymwneud a chomedi yn haws ac yn dal i fod yn ddoniol.
Os doedd 'na ddim cynulleidfa fyw yno yna mi ddylid cael un ac os oedd 'na un yno, mi ddylid ei dangos hi o bryd i'w gilydd a'i gosod hi'n nes at y panel.
Meddwl am lot fawr o gemau a rowndiau gwahanol a'u testio nhw allan o flaen cynulleidfa cyn recordio fel eu bod nhw'n gwbod be sy'n gweithio a be sy ddim.

Wedi deud hynny, ma'r syniad yn wych ac yn un ddylid ei neud ond ma rhaid dewis rhwng ei neud o'n dda neu beidio'i neud o o gwbwl.

Mi newch chi gyd sylwi bod llawar o'n syniada i'n ymdebygu i fformat Have I Got News For You ond mi fysa cal rhaglan wedi'i chopio ond wedi'i gneud yn dda ac yn ddoniol yn well o lawar na chal un wreiddiol crap (fel .Cym). Ac o'i gneud hi yn gymraeg, mi fysa 'na ongl unigryw gymreig yn ymddangos be bynnag dwi'n meddwl.

Hefyd, mi ddylid cadw Tudur Owen mor bell a phosib oddi wrth y rhaglan 'ma. A ma hynny am mod i'n meddwl bod TO yn briliant. Ond dwi'm isio iddo fo fod ar bob un rhaglan gomedi Gymraeg sy'n bodoli a dwi'm isio i'r sin gomedi gymraeg ddibynnu gormod ar un dyn.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 06 Maw 2011 9:18 am

Dwi'n meddwl bod y ddwy neges uchod yn sylwadau teg iawn a chwbl gywir, achos mi fydda'n dda cael y math hwn o raglen ar S4C heb amheuaeth, a dwi'n meddwl bod pwyntiau anffodus uchod am y gynulleidfa yn benodol yn sbot on. Ond ga'i hefyd ychwanegu byth byth gadael y boi arall oedd ar dîm Glyn Wise yn ôl chwaith!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Krankski coch » Maw 08 Maw 2011 11:46 pm

urgh. na. nath y rhaglen ma neud i fi deimlo'n sal.
Rhithffurf defnyddiwr
Krankski coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 201
Ymunwyd: Sul 13 Maw 2005 6:36 pm
Lleoliad: coedwig

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Ramirez » Mer 09 Maw 2011 8:59 am

Mi oedd o'n hollol hollol hollol shit.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Iau 10 Maw 2011 8:49 am

Ramirez a ddywedodd:Mi oedd o'n hollol hollol hollol shit.


Mae dy syniadau yn ddiddorol i mi, a hoffwn danysgrifio i dy gylchlythyr.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan ceribethlem » Iau 10 Maw 2011 2:18 pm

Dyn Gwyn Gwirion a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:Mi oedd o'n hollol hollol hollol shit.


Mae dy syniadau yn ddiddorol i mi, a hoffwn danysgrifio i dy gachlythyr.

Wedi trwsio hwnna i ti :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

Postiogan Ramirez » Iau 10 Maw 2011 3:58 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Dyn Gwyn Gwirion a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:Mi oedd o'n hollol hollol hollol shit.


Mae dy syniadau yn ddiddorol i mi, a hoffwn danysgrifio i dy gachlythyr.

Wedi trwsio hwnna i ti :lol:


Oi!
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron