Tudalen 2 o 3

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 11:26 am
gan osian
Erchyll, gwirioneddol erchyll. Y pwynt gwaetha' oedd pan na'th rhywun sôn am gowbois, a na'th Tina ddeud "www, brokeback mountain". Fethish i wylio mwy na 10 munud.

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 4:23 pm
gan Hogyn o Rachub
All rhywun gadarnhau a oedd cynulleidfa ai peidio - roedd o'n swnio'n uffernol o put-on i mi!

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 10:11 pm
gan tom.j
Meg a ddywedodd:Na, Tippit oedd y gwaetha.


Weles i erioed mo Tippit felly anodd pasio barn. Mae'n rhaid ei fod yn uffernol Meg os oedd e'n waeth na .Cym. Ffaelu credu bod S4C mor haerllyg ag ail ddarlledu .Cym heno!!!!! .Cym - on!!

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 11:23 pm
gan Chickenfoot
Roedd y trailer yn ddigon i mi benderfynu osgoi'r sioe. 'Sa'n well gen i wylio marathon Glee wrth ymyl Meical o Sioe Tudur Owen na wylio'r sherbet yma.

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 11:58 pm
gan llew99
Ie cytuno a Meg, fi moyn wylio mwy o .CYM, comedi eitha da. Hoffi Glyn Wise!! Mae e rili ddoniol, a fi cofio Tipit, lot waeth na .CYM.

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2011 8:47 am
gan Catarina
Be sy'n bod arno chi bois bach? (yn enwedig Tomj!!!)
Ma'n hen bryd i ni cal rhywbeth newydd, ffres, real ac yn fwy na lai'n fyw fel .Cym ar S4C. Ma na gap am rhywbeth fel hyn ar S4C. Ma eisie rhoi cyfle i raglen fel hon i ddatblygu. Lot o potensial yna!
Ma angen safio S4C a sai'n credu neith rhagleni fel Noson Lawen neud hynny.

So beth wyt ti Tomj yn gweld yn ddoniol? Yn hytrach na bychanu, pam sy ti'n cynnig syniadau?!

Nes i (a lot o fobl arall dwi'n nabod) chwerthin.
Gobeithio gweld fwy o .Cym yn y dyfodol.

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2011 10:01 am
gan Hogyn o Rachub
Dydi rhoi drag queen ar raglen ddim yn ei wneud yn gyfoes nac yn feiddgar, a dim fy mod i'n awgrymu dim wrth gwrs ond mae'n od ar y diawl bod pobl yn ymuno â Maes-e ac yn syth bin dod i'r edefyn hon i amddiffyn y shit 'ma! No wê y byddai rhywun call yn amddiffyn y rhaglen hon oni fo ganddyn nhw rheswm personol dros wneud, sori!

Dwi wedi bod yn mwynhau S4C lot yn ddiweddar ac wedi'i chlodfori, ond roedd .cym bron â gwneud i mi grio ag anobaith llwyr!

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2011 10:44 am
gan Rhys Aneurin
Catarina a ddywedodd:Ma'n hen bryd i ni cal rhywbeth newydd, ffres, real ac yn fwy na lai'n fyw fel .Cym ar S4C.


Os taw .Cym ydi dy syniad di o rhywbeth newydd, ffres, wel mae yna broblem yn does. Roedd yna atseiniau difrifol wael o ryw sioe o'r 70au ar hwn. Drag queen? Canned laughter? Tir newydd go iawn fana....


Catarina a ddywedodd:Ma angen safio S4C a sai'n credu neith rhagleni fel Noson Lawen neud hynny.


Be, a mi wneith .Cym amwni?! O leiaf fod Noson Lawen yn apelio i rywun - dwi heb siarad a neb - NEB - a oedd efo unrhywbeth positif i ddweud amdan .Cym.

A sna ddim modd defnyddio sefyllfa gwael S4C i geisio cael pobl i fynd yn ysgafn ar y sioe yma. Mae gwylwyr S4C yn haeddu gwell. Fyddai ddim yn un i ladd ar sioeau teledu yn aml, ond mi wnaeth .Cym wir fynd dan fy nghroen.


O, a dwi'n cytuno efo'r Hogyn o Rachub - rhyfedd iawn yw'r ffaith fod yna aelodau newydd yn ymddangos yn y pwrpas i amddiffyn y sioe. Dwi'n gobeithio i dduw taw dim ploi gan S4C yw hyn, i geisio amddiffyn y gwarth yma. Os hynnu, wel, mae'n ymddangos fod S4C wir yn .Cymio yn llygaid eu gwylwyr.

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2011 2:48 pm
gan tom.j
Catarina a ddywedodd:Be sy'n bod arno chi bois bach? (yn enwedig Tomj!!!)
Ma'n hen bryd i ni cal rhywbeth newydd, ffres, real ac yn fwy na lai'n fyw fel .Cym ar S4C. Ma na gap am rhywbeth fel hyn ar S4C. Ma eisie rhoi cyfle i raglen fel hon i ddatblygu. Lot o potensial yna!
Ma angen safio S4C a sai'n credu neith rhagleni fel Noson Lawen neud hynny.

So beth wyt ti Tomj yn gweld yn ddoniol? Yn hytrach na bychanu, pam sy ti'n cynnig syniadau?!

Nes i (a lot o fobl arall dwi'n nabod) chwerthin.
Gobeithio gweld fwy o .Cym yn y dyfodol.


Wel ma'r uchod di neud i fi chwerthin yn fwy na wnes i ar . Cym!
A dwi hefyd yn cytuno a Hogyn O Rachub - od iawn bo pobol yn ymuno ar wefan hon i glodfori .Cym. Dwi heb glywed UN person yn canmol y rhaglen eto (oni bai ar fan hyn). Ydych chi'n gweithio i gwmni Ceidiog falle neu yn perthyn i Glyn Wise a'r panelwyr di-dalent oedd ar y rhaglen?
Dydw i ddim yn bychanu neb - S4C sy'n bychanu ni y gwylwyr drwy ganiatau i'r fath rwts gael ei ddarlledu. Allen i rhestri nifer o bobol a rhaglenni sy'n neud i fi chwerthin... Tudur Owen yn un! Ma' gemau panel fel QI, Would I Lie To You, Have I Got News For You, Mock The Week,Celebrity Juice,8 out of 10 Cats - yn ddoniol a wedi eu cynhyrchu'n dda. Doedd .Cym ddim yn ddoniol a doedd e ddim wedi ei gynhyrchu'n dda o gwbl.Doedd dim strwythyr i'r rhaglen, pawb yn siarad ar draws ei gilydd - mae pob gem banel da wedi ei sgriptio mwy neu lai,wel y rhan fwya ta beth gyda digon o le i ad-libio fan hyn fan draw. Roedd .Cym yn warth. Syniadau - ma nifer o gemau panel ar Radio Cymru efallai byse'n gweddu i'r teledu e.e. Bwletin gyda Gary Slaymaker.
Gyda llaw - er nad yw at fy nant i - mae Noson Lawen wedi ei gynhyrchu'n dda ac mae lle i'r math yma o raglen ar S4C.

Re: Gêm banel newydd S4C - .CYM

PostioPostiwyd: Sad 05 Maw 2011 3:56 pm
gan Josgin
Ydi rhaglenni o'r fath yn y Saeneg yn cael ei sgriptio a'i golygu fwy na mae rhywun yn feddwl ? e.e. Mae tim enfawr yn gweithio ar 'Have I got news for you ' , ac mae rhywun wedyn yn cymeryd mae ffraethineb y cyfrannwyr sy'n gyfrifol am yr hiwmor. Clywais gyfaill i mi a oedd yn arfer bod yn actor , a gwyneb reit amlwg, fod 'golygu' a dweud 'na , mae hwn yn wael, gwnewch o eto ' ddim yn bodoli yn y Gymraeg. Y gwir ydi fod 'Noson Lawen' serch yn hen-ffasiwn , ac o ddim diddordeb i mi , yn fwy proffesiynol a trwyadl na rhyw sioe 'deiddgar' sydd mewn gwirionedd yn rhy amatur i'w darlledu.
Unwaith eto, mae cyfryngis S4siec yn saethu eu hunain yn eu traed. Oeddet ti'n gwylio, Angharad Mair ?