Tudalen 1 o 2

PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Llun 18 Ebr 2011 12:14 am
gan tom.j
Os oedd Camp Cefin ishe creu opera sebon newydd wel dyna ddyle fe wneud - oherwydd yet again - nid drama fel 'drama iawn' yw Porthpenwaig ond glorified soap opera unwaith eto - gwmws fel Teulu. Dosbarth canol iawn a saff iawn gan ddefnyddio nifer fawr o gast 'Rownd a Rownd' - er bo Rownd a Rownd gan gwaith gwell na'r gyfres hon. Actio da gan rhai - John Ogwen, Elin Llwyd a Iola Gregory a pheth actio dodji fel y gogyddes yn y gwesty a honna o Jabas oedd yn arfer canu backing i Bryn Fon! Roedd yr ysgrifennu yn ofnadwy - pryd neith Camp Cefin sylweddoli taw dim ond un peth y gall e neud yn iawn - ac arwain Cor Camplyd ydy hwnna! Mae amser darlledu'r gyfres yn anghywir..dylai hon fod mlaen am 7.30/8pm. Dim ond dramau iawn dylai fod ar y teli wedi 9pm. Dywed rhywun ar 'Twitter' nad oedd Porthpenwaig cystal a Doc Martin ond neith e'r tro....dyna'n gwendid ni erioed...'neith e'r tro?' - na neith. Dwy gyfres newydd wedi eu heipio yn cychwyn y penwythnos hon -Porthpenwaig a'r nonsens a elwir yn Ar Gamera gyda'r king of porn OTT Rhodri Ogwen a'r nonentity Lovegreen. Siomedig yw'r gair dwi'n credu i ddisgrifio'r cyfresi newydd yma - siomedig iawn.

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Llun 18 Ebr 2011 7:52 am
gan Doctor Sanchez
Na'i sdicio efo hon am wan, achos bod hi wedi ffilmio yn y pentre lle cesh i'n magu. ond:

Y deialog yn boenus ar brydia. Pam bod y sgriptiwrs ma'n sgwennu yn ddim byd tebyg i sut ma pobl yn siarad? Chlywis i ddim iaith na dywediada Pen Llyn o gwbl yn y bennod gyntaf. Iaith generic Gogledd Cymru sy'n cael ei ddefnyddio bob tro. Pam setio'r rhaglen mewn pentref dychmygol ym Mhen Llyn, os nad oeddan nhw am ddefnyddio'r dafodiaith leol?

Does na'm llawar o stori i weld, mond bod pawb yn siarad yn nghefna i gilydd. Ond mae'n annodd datblygu stori yn y bennod gynta, felly bydd rhaid sbio ar y dair neu bedair pennod gynta i weld.

Do'n i'm yn impressed o gwbl ar y cyfan, ond gawn ni weld os oes na stori am fygwth torri allan neu beidio...

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Gwe 22 Ebr 2011 10:41 am
gan fatswalla
Uffernol - sut ar wyneb y ddaer ma'r lol yma yn cael go-ahed? Actorion da yn cal i gwastraffu ar sothach 'dated'. Ble bynnag yr aiff, beth bynnag a wnaiff, iw no hw, ma na stinc. :ing:

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Maw 26 Ebr 2011 11:11 pm
gan llew99
Eitha hoffi Porthpenwaig, lleoliad hyfryd - Aberdaron, cast - ardderchog, unig gwendid yw does yna ddim digon o DDRAMA. Gwendid mwyaf dramau diweddar ar S4C (eithro Pentalar a Tipyn o Stad) ydy fod nhw rhy araf a ddim digon yn digwydd. Pam ddim gael tim o sgwenwyr, fel mae nhw wneud yn America (a mwy a mwy yn Lloegr) unlle dibynnu ar un, Cefin Roberts, i sgriptio'r holl gyfres.

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2011 8:29 am
gan fatswalla
Sut ar wyneb y ddaear gall unrhyw un wylio'r toilet yma heb fod isho beichio crio. Mae'n neud i Teulu edrych yn genius. Deialogi i dagu, ac, note, wedi ei gyfarwyddo a'i olygu gan yr UN PERSON. Iawn ar youtube ond drama broffesiynol!!! Do me a favour. Dangoswch hwn i Jeremy Hunt ac mi fydd ganddo ddigon o reswm i bwyso'r botwm.

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2011 10:55 pm
gan Cymru Fydd
Yn anffodus, mae'r rhaglen braidd yn nawddoglyd. Hawdd i'w gwylio, onid rhy hawdd. Mae angen i rywbeth ddigwydd yn hytrach na thin-droi am awr gyfan bob nos Sul.

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2011 3:38 am
gan Mali
Sori .... ond mi wnês i roi'r gorau i wylio Porthpenwaig ar ôl y bennod gyntaf . :( Pam faswn i'n wastio fy amser yn gwylio pobl yn malu awyr mewn cegin a gwylio actorion da yn powtio o gwmpas y pentref......

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2011 5:28 pm
gan Rhys Aneurin
Mae'r sgript yn ofnadwy yn fy marn i. Gwir boenus ar brydiau. Sydd yn biti, oherwydd sa'na fodd creu rhaglen arbennig o dda gyda'r cast sydd genyn nhw.

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2011 6:32 pm
gan tom.j
Mae'r sgript yn WARTHUS - Arweinydd Cor Plant yw Cefin Roberts a dyna i gyd. Methu actio. Methu canu. Methu cyfarwyddo ac yn bendant methu ysgrifennu. Pam ar wyneb daear mae S4C yn cow towio iddo fe. Sawl actor da yn gorfod ceisio neud sgript wael yn sgript gweddol ond yr actorion gwael yn y gyfres yn methu ar bob lefel. Wedi gwylio 2 benod - dim mwy - dim diolch!

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2011 7:01 pm
gan osian
Ma'r rhaglen yn euog o bob un o'r cyhuddiadau uchod, sydd wir yn biti. Oedd 'na amball enhghraifft o actio diawledig o wael yn y bennod ddwytha. Dwi'm ar frys i weld y bennod nesa.