gan Doctor Sanchez » Llun 18 Ebr 2011 7:52 am
Na'i sdicio efo hon am wan, achos bod hi wedi ffilmio yn y pentre lle cesh i'n magu. ond:
Y deialog yn boenus ar brydia. Pam bod y sgriptiwrs ma'n sgwennu yn ddim byd tebyg i sut ma pobl yn siarad? Chlywis i ddim iaith na dywediada Pen Llyn o gwbl yn y bennod gyntaf. Iaith generic Gogledd Cymru sy'n cael ei ddefnyddio bob tro. Pam setio'r rhaglen mewn pentref dychmygol ym Mhen Llyn, os nad oeddan nhw am ddefnyddio'r dafodiaith leol?
Does na'm llawar o stori i weld, mond bod pawb yn siarad yn nghefna i gilydd. Ond mae'n annodd datblygu stori yn y bennod gynta, felly bydd rhaid sbio ar y dair neu bedair pennod gynta i weld.
Do'n i'm yn impressed o gwbl ar y cyfan, ond gawn ni weld os oes na stori am fygwth torri allan neu beidio...
Not my fault. Monkey bastard hands!
WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?