BU Cefin Roberts yn ddipyn o fachgen gwyn ers dechrau S4C. Mi roedd y gyfres 'Hapnod' yn un lwyddiannus tu hwnt bryd hynny, ond mam bach mi fuasai'r Gymru gyfoes yn gwawdio honno rwan. Mae ganddo ddawn fel arweinydd ysgol ddrama, ond mae ein pwll talent yng Nghymru mor gyfyng bellach fel bod dawn mewn un maes adloniant yn cael ei gamgymryd fel dawn mewn un arall. Mae diffyg gwrthrychedd yn felltith. Pa mor aml mae cyfarwyddwr/comisiynydd rhaglenni yn S4C wedi sefyll yn ol, dweud wrth ei ffrind (neu cryfach) a dweud :'Na . Mae hwn yn sal - wnawn ni ddim ei ddarlledu '.
Yr ateb ydi : Byth . Ac mae'r Saeson yn amau hyn, ac wedi tynnu'r plwg. Ac mae'r moch bach balch a fu'n gloddesta am 28 mlynedd yn dechrau gwichian. Tydi Porthpenwaig ddim y peth gwaethaf i ymddangos ar y sgrin, ond FAINT O WEITHIAU MAE RHYWUN WEDI EI WELD O'R BLAEN !