Tudalen 2 o 2

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2011 9:09 pm
gan Josgin
BU Cefin Roberts yn ddipyn o fachgen gwyn ers dechrau S4C. Mi roedd y gyfres 'Hapnod' yn un lwyddiannus tu hwnt bryd hynny, ond mam bach mi fuasai'r Gymru gyfoes yn gwawdio honno rwan. Mae ganddo ddawn fel arweinydd ysgol ddrama, ond mae ein pwll talent yng Nghymru mor gyfyng bellach fel bod dawn mewn un maes adloniant yn cael ei gamgymryd fel dawn mewn un arall. Mae diffyg gwrthrychedd yn felltith. Pa mor aml mae cyfarwyddwr/comisiynydd rhaglenni yn S4C wedi sefyll yn ol, dweud wrth ei ffrind (neu cryfach) a dweud :'Na . Mae hwn yn sal - wnawn ni ddim ei ddarlledu '.
Yr ateb ydi : Byth . Ac mae'r Saeson yn amau hyn, ac wedi tynnu'r plwg. Ac mae'r moch bach balch a fu'n gloddesta am 28 mlynedd yn dechrau gwichian. Tydi Porthpenwaig ddim y peth gwaethaf i ymddangos ar y sgrin, ond FAINT O WEITHIAU MAE RHYWUN WEDI EI WELD O'R BLAEN !

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Mer 25 Mai 2011 12:50 pm
gan ld2304
Y gwendid mwya faswni'n ei ddweud ydi fod y ddeialog braidd yn anrealistic ar adegau- yn enwedig rhwng y ddau hogun MA a'r athro. Braidd yn siwgwrllyd ar adega, ond dwi'n gweld storom yn dod yn y stori rhwng y ficer plwy a'r athro.

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Iau 26 Mai 2011 6:23 am
gan Josgin
Son am Porthpenwaig neu Pentalar ydan ni rwan ?

Re: PORTHPENWAIG

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 2:03 pm
gan Cymrodor
Mali a ddywedodd:mi wnês i roi'r gorau i wylio Porthpenwaig ar ôl y bennod gyntaf .

Fi hefyd. Ond dwi wedi ei gadw at y dyfodol rhag ofn i mi fod a dim byd gwell i gwneud rhywbryd.