Sianel 62 - Mi fydd y chwyldro ar y teledu

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sianel 62 - Mi fydd y chwyldro ar y teledu

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 11 Chw 2012 11:48 pm

Sianel 62 - Mi fydd y chwyldro ar y teledu
Darllediad 1af: Dydd Sul, Chwefror 19 am 8:00yh


Delwedd

Fel prosiect i ddathlu 50 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bydd y Gymdeithas yn lansio sianel deledu newydd ar-lein ar y 19eg o Chwefror 2012. Fe fyddwn yn dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh.



Dyma gyfle i chi felly gymryd rhan, arddangos eich gwaith a datblygu eich sgiliau chi. Mi fydd yr holl adnoddau ar gael gyda ni a byddwn yn cynnig hyfforddiant i'w ddefnyddio. Os oes diddordeb gyda chi ond dim profiad nac offer, peidiwch â phoeni - dros y mis nesaf fe fyddwn yn sefydlu 'hybiau' ar draws Cymru. Fe fydd yr hybiau yn cynnwys yr offer a'r adnoddau i ffilmio a golygu rhaglenni a phytiau o ansawdd. Felly'r hyn sydd angen yw i chi feddwl am syniadau ar gyfer ffilmiau byr a rhaglenni a mynd ati i'w ffilmio.

Gallwch hefyd gynnig gwaith a ffilmiau byrion rydych eisoes wedi'u gwneud neu gynnig eich syniadau neu gyfleoedd rhaglenni/recordio. Fe fyddwn yn edrych am ddigwyddiadau, gigiau a mwy i ffilmio dros y misoedd nesaf. Dyma gyfle hefyd i bobl gyda diddordeb penodol mewn ffilm, teledu, cyfryngau, cynhyrchu, cyflwyno, sgriptio, dylunio ac animeiddio i ddefnyddio eu sgiliau at fudd y Gymraeg. I gymryd rhan neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Greg Bevan greg@cymdeithas.org

http://sianel62.com/
http://www.facebook.com/sianel62
http://twitter.com/sianel62

Pa fath o raglenni Hoffwch chi weld ar Sianel 62? Nodwch eich syniadau isod:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron