Beth yw'r barn gyffredin ar safon y darlledu o'r Urdd eleni ? Dwi'n credu fod S4C wedi methu yn llwyr y tro yma...
Mae'n amlwg gan fy mod yn codi'r pwynt nad ydw i yn hapus gyda safon y darlledu ar y teledu ac mi ydw i wedi anfon cwyn i fewn at S4C yn nodi hyn.
Dwi'n teimlo fod safon y rhaglenni yn is-raddol i'r hyn byddwn i'n gweld ar sianeli eraill a gyda'r holl son am dorri yn ol ar ddarlledu o ddigwyddiadau megis yr Urdd fedrwn ni ddim fforddio rhoi esgusodion fel cynhyrchu crap i'r gwleidyddion yma.
Pam fod gymaint o darnau gosod heb ei glirio ar gyfer hawlfraint mewn pryd ar gyfer darlledu ?
Gwestai yn siarad yn boring ac yn ailadrodd ei hunan tro ar ol tro ?
Enwai pobol yn anghywir neu wedi'u sillafu yn anghywir / sillafu yn gyffredinol - (rhyddiaeth !)
Shots gwag ar y sgrin gan fod dawnswyr wedi symud ond y cyfarwyddwr heb sylwi...
Beth yw teimladau pawb arall ?