Tudalen 1 o 1

SAFON GWAEL DARLLEDU O EISTEDDFOD YR URDD ELENI

PostioPostiwyd: Mer 08 Meh 2011 9:07 am
gan CYFRYNGWR 1
Beth yw'r barn gyffredin ar safon y darlledu o'r Urdd eleni ? Dwi'n credu fod S4C wedi methu yn llwyr y tro yma...

Mae'n amlwg gan fy mod yn codi'r pwynt nad ydw i yn hapus gyda safon y darlledu ar y teledu ac mi ydw i wedi anfon cwyn i fewn at S4C yn nodi hyn.

Dwi'n teimlo fod safon y rhaglenni yn is-raddol i'r hyn byddwn i'n gweld ar sianeli eraill a gyda'r holl son am dorri yn ol ar ddarlledu o ddigwyddiadau megis yr Urdd fedrwn ni ddim fforddio rhoi esgusodion fel cynhyrchu crap i'r gwleidyddion yma.

Pam fod gymaint o darnau gosod heb ei glirio ar gyfer hawlfraint mewn pryd ar gyfer darlledu ?

Gwestai yn siarad yn boring ac yn ailadrodd ei hunan tro ar ol tro ?

Enwai pobol yn anghywir neu wedi'u sillafu yn anghywir / sillafu yn gyffredinol - (rhyddiaeth !)

Shots gwag ar y sgrin gan fod dawnswyr wedi symud ond y cyfarwyddwr heb sylwi...

Beth yw teimladau pawb arall ?

Re: SAFON GWAEL DARLLEDU O EISTEDDFOD YR URDD ELENI

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 7:22 pm
gan Khmer
Avanti oedd y cwmni...

Re: SAFON GWAEL DARLLEDU O EISTEDDFOD YR URDD ELENI

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 7:37 pm
gan ceribethlem
Khmer a ddywedodd:Avanti oedd y cwmni...

Paid gadel ffeithie amharu ar gwd rant 'chan!

Re: SAFON GWAEL DARLLEDU O EISTEDDFOD YR URDD ELENI

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 7:52 pm
gan Khmer
Meddwl falle se'r faith yn tanio'i feddwl am ail rant!

Re: SAFON GWAEL DARLLEDU O EISTEDDFOD YR URDD ELENI

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 6:24 am
gan Josgin
'Emyr Afan inc ' ?

Re: SAFON GWAEL DARLLEDU O EISTEDDFOD YR URDD ELENI

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 1:14 pm
gan Cymrodor
Sylwais hefyd y sillafiadau yn anghyson ac enwau ar y sgrin weithiau yn wahanol i beth oedd yn cael ei dweud gan y cyflwynwyr.