Tudalen 1 o 2

S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Mer 08 Meh 2011 4:57 pm
gan tom.j
Weithiau dwi'n meddwl ydy S4C yn haeddu llwyddo? Wrth edrych ar arlwy nos Sadwrn nesa....cofiwch taw Nos Sadwrn yw uchafbwynt nifer fawr o sianeli eraill...dyma sydd gan S4C i gynnig i'r holl deulu -

5.00pm - Figaro:Tu Ol I'r Llenni
5.45pm - Criced Morgannwg v Caint
9.00p - Figaro - Yr Opera
11.15 - Clwb Rygbi Shane

Dywedodd rhywun ychydig yn ol...Claddwch y sianel nawr! A gyda'r math yma o arlwy bydd yr angladd yn dechre'n gynt na'r disgwyl!

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Mer 08 Meh 2011 5:20 pm
gan CYFRYNGWR 1
CYTUNO - yn llwyr.

Y drafferth yw bod S4C ar stop ar hyn o bryd yn ceisio penderfynnu ar ba gyfeiriad i fynd iddo er mwyn datblygu at y dyfodol a fedrwn nhw ddim fforddio gwneud hyn.

Mae angen i S4C siapo lan yn gloi neu fydd hi'n rhy hwyr.

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Mer 08 Meh 2011 10:10 pm
gan Mwnci Banana Brown
tom.j, mae'n neis i weld bo ti wedi posto 62 neges ar maes-e, a ma 56 o'r negeseuon ma am S4C! Nawr gad dy ffacin gonan a gwed be lice ti weld ar y sianel, neu paid wotcho fe o gwbwl. Syml!

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 12:37 am
gan tom.j
Mwnci Banana Brown - falch i weld bo bywyd ym Mlaenffos mor egseiting bo ti'n hala dy noseithiau yn cyfri sawl gwaith ma rhywun yn ysgrifennu yn y fforwm yma!
Ti sy'n cael dweud beth ddyle pobol siarad amdano fan hyn ie?
Y rheswm dwi'n cwyno am S4C yw achos ymhell cyn dy eni di buodd nifer fawr ohonon ni yn brwydro am sianel Gymraeg. Wedi i ni gael y sianel, diolch i Gwynfor Evans ac aelodau CIG. gethon ni flynyddoedd lawr o rhaglenni da, difyr ac amrywiol. Bellach mae'r sianel yn ddiflas ac yn colli gwylwyr yn wythnosol. Mae hyn yn bryder i fi a thrwy fforwm maes-e.com gallaf leisio fy marn gyda'r gobaith o ddechrau trafodaeth a falle byse rhywun o S4C yn darllen y drafodaeth a gweld beth yw pryder y cyhoedd.
Y math o rhaglenni yr hoffwn weld ar S4C byse dramau' hard hitting' fel y rhai ar Channel 4 a BBC 4 nid cyfresi candi fflos fel Porthpenwaig a Teulu. Cyfres dditectif fel Bowen A'i Bartner a Heliwr ers talwm. Cyfresi adlonioant fel Torri Gwynt a Caryl. Beth am gomedi sefyllfa fel y rhai ar BBC 3 - White Van Man, Him & Her, Twenty Twelve, Miranda, Not Going Out. Comedi gyfoes nid comedi Ifan Tregaronaidd.
Fel sonies uchod mae arlwy nos Sadwrn yn warthus - dyle bod cywilydd ar S4C. Y math yma o arlwy oedd ar BBC 2 nol yn y 60au!
Felly Mwnci - os ody e'n iawn 'da ti - tra bo S4C a'i arlwy yn fy ngwylltio fe garia i mlaen i ysgrifennu fan hyn - a ti'n gwbod beth i wneud os nad wyt ti'n licio fe - Paid a'i ddarllen. Syml!!

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 1:14 am
gan dwsi
Ydi'r rhaglen yma yn haeddu fod yn fyw pob nôs am wythnos? Pwnc difyr ond gwastraf arian ydi ei ddarlledu yn fyw.
http://s4c.co.uk/ygoetsfawr/c_index.shtml

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 8:31 am
gan Hogyn o Rachub
Waeth beth fo'r methiannau ag arlwy S4C mae 'na rywbeth anghyfforddus iawn am weld rhywun sy'n amlwg isio gweld tranc y Sianel. Er, fedra i ddim anghytuno am arlwy Sadyrnaidd y sianel.

O, gyda llaw, Duw â'n gwaredo rhag pob un o'r comedïau BBC3 nesdi enwi. Ma'n nhw'n ffycin ofnadwy bob un wan jac ohonynt.

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 9:33 am
gan Muralitharan
Wrth gwrs nad ydi pob dim yn iawn yn S4C! Mae'r sefyllfa'n gyffredinol yn pryderu rhywun yn fawr iawn, ond mae gan y sianel yr un broblem â Radio Cymru, sef gorfod plesio pawb. Ac mae hynny'n anodd, os nad amhosib.

Ro'n i'n ffan mawr o Torri Gwynt hefyd, ond dwyt ti ddim wir yn meddwl fod y gyfres honno at ddant pawb chwaith wyt ti?

Y gwir ydi, fod yr arlwy nos Sadwrn ti wedi tynnu ein sylw ni ati yn fy siwtio i i'r dim! Potel fach o Rose hefyd...joio!

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Iau 09 Meh 2011 9:46 am
gan tom.j
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Waeth beth fo'r methiannau ag arlwy S4C mae 'na rywbeth anghyfforddus iawn am weld rhywun sy'n amlwg isio gweld tranc y Sianel.


Os wyt ti'n awgrymu fy mod i am weld diwedd ar S4C - ti'n bell iawn ohoni. Eisiau S4C i ffynnu ydw i - ond mae'r sefyllfa bresennol yn fy nhristhau. Mae safon yr arlwy yn ddiweddar o safon isel iawn. Porthpenwaig, Ar Gamera, .Cym,Ista'n Bwl, Ddoe Am Ddeg......
Mae gyda ni ddramodwyr da - beth am gyfres o ddramau unigol gan dwedwch chwech o ddramodwyr newydd. Beth am 'Bwletin' (Radio Cymru) gyda Gary Slaymaker ar y teledu? Cyfres adloniant i Elin Fflur? Cyfres dditectif/heddlu newydd? Mater o farn ydy'r comediau sefyllfa sonies i amdanynt - yn fy marn i ma' nhw'n dda ac yn well o lawer nag unrhyw rhaglen 'gomedi' sydd wedi bod ar S4C ers amser maith. Dwi'n siwr y buasai rhywun fel Daniel Glyn a'i frawd yn gallu ysgrifennu comedi sefyllfa...wedi'r cyfan roedd eu cyfresi i blant - ee Hotel Eddie o'r safon ucha.

Poeni ydw i bod pobol yn troi oddi wrth S4C yn gyson....wrth drafod gyda Chymry yn y dafarn dwi'n gweld taw dim ond ambell un sy'n gwylio S4C (dim ond y rygbi)...ac mae hyn yn fy mhryderi.

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 9:09 am
gan prypren
Dwi wedi cael llond bol ar y bobol yma sy'n slagio S4C ffwrdd trwy'r amser, cyfryngis methedig wedi chwerwi dwi'n siwr ydi lot ohonnyn nhw.

Dwi'n meddwl fod S4C yn gneud job ardderchog, dwi'n gwylio'r sianel yn aml o ddewis er fod gynnai gannoedd o sianeli teledu eraill i ddewis ohonnyn nhw. Yn y pythefnos dwethaf dwi wedi gwylio rygbi, rhaglenni trafod, gwleidyddiaeth, cyw, perthyn, natur, ffermio, antur, criced ayyb. Gyd yn rhaglenni da, difyr, ac yn gymraeg.

Dyma'r sgwrs dwi'n glywed yn aml 'Dwi byth yn watsiad S4C..mae o'n crap... wel heblaw y rygbi ...ia...o ia a Pawb A'i Farn...ia mae hwnna'n iawn..ia y plant yn watsiad cyw...o ie wrth gwrs' ayyb. Atgoffa fi o'r sgets 'what did the romans ever do for us'

Wrth gwrs, beirniadu cynhyrchiadau unigol, ond mae S4C fel sianel yn gneud job ffantastic a dylen ni ymfalchio yn hynny.

Re: S4C - Haeddu Llwyddo??

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 12:17 pm
gan Gwen
Ie, cytuno efo prypren. Dwi'n meddwl bod lot ohonan ni a dweud y gwir ond nad ydan ni'n gweiddi cweit cymaint am y peth â'r rhai sydd yn erbyn.

Digon hapus efo S4C fy hun; yn sicr, dwi'm yn dymuno i'r sianel fethu. Dwi'n meddwl ei bod hi'n eitha da ar hyn o bryd, yn cynnig digon o'r math o beth mae hi'n neud orau a dim rhyw gomedis sy ddim yn gweithio.