Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
prypren a ddywedodd:Wedi mwynhau yr ail bennod yn fawr eto, pob math o straeon neis yn ffrwtian.
Hefyd wedi sylweddoli pam ei bod hi'n ddrama mor gyfforddus iw gwylio. Mae Ysgol Gymraeg yn awyrgylch naturiol iaith gymraeg, felly does dim llais bach yng nghefn dy feddwl yn gofyn ' a fydde'r cymeriadau yma i gyd yn siarad cymraeg mewn gwirionnedd'
Josgin a ddywedodd:Nid yw'r prifathro wedi heneiddio ryw lawer ers iddo beryglu ei yrfa cymaint ar 'Pentalar' .
Macsen a ddywedodd:Hmmm... mae'r gyfres yn un dda ar y cyfan ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi ei fod wedi mynd i'r cyfeiriad cywir drwy ladd Emyr. Roedd y gyfres yn gwneud jobyn da o gadw’r diddordeb heb fod angen lladd unrhyw un, yn bortread ‘realistig’ o fywyd athrawon mewn Ysgol Gymraeg. Y mae bron fel petai’r awdur/cynhyrchwyr wedi cael panig bach a meddwl ‘beth os ydyn ni’n dechrau colli gwylwyr – well i un o’r cymeriadau fynd yn dw-lali a lladd un arall a chuddio ei gorff mewn tarpolin’.

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai