Macsen a ddywedodd:Hmmm... mae'r gyfres yn un dda ar y cyfan ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi ei fod wedi mynd i'r cyfeiriad cywir drwy ladd Emyr. Roedd y gyfres yn gwneud jobyn da o gadw’r diddordeb heb fod angen lladd unrhyw un, yn bortread ‘realistig’ o fywyd athrawon mewn Ysgol Gymraeg. Y mae bron fel petai’r awdur/cynhyrchwyr wedi cael panig bach a meddwl ‘beth os ydyn ni’n dechrau colli gwylwyr – well i un o’r cymeriadau fynd yn dw-lali a lladd un arall a chuddio ei gorff mewn tarpolin’.
Cytuno! Wnes i sôn am hyn ar Twitter - ro'n i'n cael y teimlad bod y gyfres wedi'i sgrifennu gan bwyllgor - rhai'n hapus i ganolbwyntio ar ddatblygiad perthynas rhwng y gwahanol gymeriadau a rhai'n dweud "Mae'n rhaid i ni gael digwyddiad cyffrous".
Dywedais y byddai'n well gen i heb y "melodramatics". Ond fe ddaeth yr awdur yn ôl ata i, chware teg, a dweud mai dim ond fe oedd yn ei sgrifennu. Roedd yn dweud "Amhosib plesio pawb. Heb y 'melodramatics' fydde sawl un yn achwyn bod hi'n araf ac yn ddiflas! Gobeithio bod 'na gydbwysedd."
Dydw i wir ddim yn deall pam mae angen cymaint o ddamweiniau ceir, llofruddiaethau, tanau, sgandalau mewn cyfresi fel hyn (heb sôn am Pobl y Cwm ond mae honno ar blaned arall). Dylai'r cymeriadau fod yn ddigon cryf i gario stori heb rhyw grutches felly. (Meddai hi sydd heb erioed sgrifennu un bennod heb sôn am gyfres )