Tudalen 1 o 5

Heol Waterloo

PostioPostiwyd: Sul 18 Medi 2011 8:54 pm
gan JVD33
Trychineb arall i S4C?

Re: Heol Waterloo

PostioPostiwyd: Sul 18 Medi 2011 9:20 pm
gan ceribethlem
Gwaith cartref ti'n feddwl? Joies i fe

Re: Heol Waterloo

PostioPostiwyd: Sul 18 Medi 2011 9:35 pm
gan JVD33
Ie, Gwaith Cartref dwi'n feddwl, a mae rhaid fi ddweud na nes i fwynhau'r bennod gyntaf. Yr unig gymeriad hoffus mor belled oedd yr athrawes daearyddiaeth wnaeth whado'r disgybl. :ffeit:

Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 19 Medi 2011 9:21 am
gan prypren
Gwych, o'r diwedd drama am bobol sy'n swnio fel oedolion yn byhafio fel oedolion, sydd a bywydau/swyddi go iawn. Cymeriadau cryf, credadwy

Ambell i nodyn penol

1. Y twllu tu-allan i'r bwyty!!! allen nhw ddim wedi ffilmio yn y nos go iawn
2. Yr hoyw sydd am ddod allan, wedi colli ei shoc value erbyn hyn

Ond, yn bwysicach, nes i rili fwynhau ac yn edrych ymlaen at y bennod nesaf

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 19 Medi 2011 3:01 pm
gan ceribethlem
[gol - wedi uno dau edefyn tebyg - ceribethlem]

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 19 Medi 2011 7:03 pm
gan Josgin
Wedi mwynhau yn arw - actio cryf , yn enwedig gan Rhian Morgan a Catrin Fychan. Braf gweld y ddwy yn ol.

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 19 Medi 2011 9:55 pm
gan Doctor Sanchez
Er fod o'n rip off hollol o Teachers odd ar Channel 4 dros ddeg mlynadd yn ol, dwi am gytuno efo'r rhan fwyaf a deud ym mod i wedi mwynhau hi ar y cyfan.

Cast da a gesh i ambell i laff. Y darn mynd allan ar nos Wenar braidd yn 'contrived', ond fysai'm yn bosib setio'r rhaglan i gyd yn yr ysgol ma siwr.

Ma na ddwy slashar o beth handi i edrach ar hefyd :winc:

Ar ol y shait diweddar (Ddoe am Ddeg, Porth Penwaig ayyb) odd hwn yn chenj ddigon dymunol i raglan ar S4C

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Maw 20 Medi 2011 7:46 pm
gan Macsen
Dw i'n gwylio hwn nawr ac mae gen i un cwestiwn - a'i athro ac athrawes oedd yn 'Caerdydd' yw'r un cymeriadau oedd yn y gyfres honno? Mae ganddyn nhw'r un swyddi, maen nhw'n actio cymeriadau tebyg iawn, a dw i'n siŵr fod gan un yr un enw?

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Maw 20 Medi 2011 9:12 pm
gan fatswalla
Dwi'n meddwl fod hynnny'n gywir. Wnes ierioed 'gael few' i' Gaerdydd' ond mae'n edrych fel 'spin off' o fath ac. . . shock horror, mae'n gwithio. Ond, y peth gora amdana fo 'di Rhian Blythe, heb os.

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Maw 20 Medi 2011 9:45 pm
gan JVD33
Ac mae Mr Reese Mathemateg yn debyg iawn i Mr Eurof Reese Cymraeg yn Con Passionate...