Tudalen 2 o 5

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Maw 20 Medi 2011 9:46 pm
gan JVD33
.. ac fe ddylai'r athrawes Gymraeg fod yn fenyw dew ...

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Mer 21 Medi 2011 6:00 am
gan Josgin
Nid yw'r prifathro wedi heneiddio ryw lawer ers iddo beryglu ei yrfa cymaint ar 'Pentalar' .

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2011 1:00 pm
gan prypren
Wedi mwynhau yr ail bennod yn fawr eto, pob math o straeon neis yn ffrwtian.
Hefyd wedi sylweddoli pam ei bod hi'n ddrama mor gyfforddus iw gwylio. Mae Ysgol Gymraeg yn awyrgylch naturiol iaith gymraeg, felly does dim llais bach yng nghefn dy feddwl yn gofyn ' a fydde'r cymeriadau yma i gyd yn siarad cymraeg mewn gwirionnedd'

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2011 4:59 pm
gan Bobi
prypren a ddywedodd:Wedi mwynhau yr ail bennod yn fawr eto, pob math o straeon neis yn ffrwtian.
Hefyd wedi sylweddoli pam ei bod hi'n ddrama mor gyfforddus iw gwylio. Mae Ysgol Gymraeg yn awyrgylch naturiol iaith gymraeg, felly does dim llais bach yng nghefn dy feddwl yn gofyn ' a fydde'r cymeriadau yma i gyd yn siarad cymraeg mewn gwirionnedd'


Cytuno prypen - mae'n gwneud cwbl synnwyr fod pawb yn siarad Cymraeg hefo'i gilydd.
Wedi mwynhau'r rhaglen yma hyd yn hyn er mod i wedi disgwyl copi gwael o Waterloo Road.

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 17 Hyd 2011 6:19 pm
gan ceribethlem
FFacinhel, o'n i ddim yn dishgwl hwnna!

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2011 4:17 am
gan Mali
Josgin a ddywedodd:Nid yw'r prifathro wedi heneiddio ryw lawer ers iddo beryglu ei yrfa cymaint ar 'Pentalar' .


Ha ! On i'n meddwl mod i wedi weld o mewn rhaglen arall yn ddiweddar .....

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2011 4:21 am
gan Mali
'Roedd diweddglo pennod 5 yn frawychus , ond nid yn hollol annisgwyl ar ôl be ddigwyddod yn ystod y bennod. Aneurun druan. :( Yn disgwyl i weld pennod 6 ar Golyg.com ......
Sawl pennod sydd 'na tybed ?

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2011 8:37 pm
gan Macsen
Hmmm... mae'r gyfres yn un dda ar y cyfan ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi ei fod wedi mynd i'r cyfeiriad cywir drwy ladd Emyr. Roedd y gyfres yn gwneud jobyn da o gadw’r diddordeb heb fod angen lladd unrhyw un, yn bortread ‘realistig’ o fywyd athrawon mewn Ysgol Gymraeg. Y mae bron fel petai’r awdur/cynhyrchwyr wedi cael panig bach a meddwl ‘beth os ydyn ni’n dechrau colli gwylwyr – well i un o’r cymeriadau fynd yn dw-lali a lladd un arall a chuddio ei gorff mewn tarpolin’. :|

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2011 9:17 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:Hmmm... mae'r gyfres yn un dda ar y cyfan ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi ei fod wedi mynd i'r cyfeiriad cywir drwy ladd Emyr. Roedd y gyfres yn gwneud jobyn da o gadw’r diddordeb heb fod angen lladd unrhyw un, yn bortread ‘realistig’ o fywyd athrawon mewn Ysgol Gymraeg. Y mae bron fel petai’r awdur/cynhyrchwyr wedi cael panig bach a meddwl ‘beth os ydyn ni’n dechrau colli gwylwyr – well i un o’r cymeriadau fynd yn dw-lali a lladd un arall a chuddio ei gorff mewn tarpolin’. :|

Fel athro mewn ysgol Gymraeg, dwi wedi lladd ... wps, fi wedi gweud gormod

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2011 9:47 pm
gan osian
Macsen a ddywedodd:Hmmm... mae'r gyfres yn un dda ar y cyfan ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi ei fod wedi mynd i'r cyfeiriad cywir drwy ladd Emyr. Roedd y gyfres yn gwneud jobyn da o gadw’r diddordeb heb fod angen lladd unrhyw un, yn bortread ‘realistig’ o fywyd athrawon mewn Ysgol Gymraeg. Y mae bron fel petai’r awdur/cynhyrchwyr wedi cael panig bach a meddwl ‘beth os ydyn ni’n dechrau colli gwylwyr – well i un o’r cymeriadau fynd yn dw-lali a lladd un arall a chuddio ei gorff mewn tarpolin’. :|

Dwnim. Nid Aneurin laddodd Emyr, damwain oddi (oedd yn edrych yn afiach o realistig 'fyd). Dwnim am y ffaith fod neb lawar wedi amau rhywbeth yn gynt yn y diwrnod - siawns y bydda fo wedi cysylltu efo rhywun tysa fo ddim yn gorwedd ar y patio? Ond mi orffenodd yn dda iawn, ma'r ddwy raglen ola wedi bod yn dda iawn dwi meddwl