Tudalen 4 o 5

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 07 Tach 2011 3:43 pm
gan Doctor Sanchez
Shaggio'r ysgrifenyddes. Clasur!

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 07 Tach 2011 4:39 pm
gan ceribethlem
JVD33 a ddywedodd:Byddai'n braf clywed safon iaith gwell ymysg yr athrawon weithiau.

Jiawcs, mae'r safon iaith yn well nac ambell i athro mewn ysgol Gymraeg go iawn!

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 07 Tach 2011 7:46 pm
gan Josgin
Mwynhau'r gyfres yn arw - actio da iawn, cyfarwyddo cyflym a chyfoes , a llawer o hiwmor.
Well o lawer na Porthpewaig a'r gyfres wleidyddol yna llynedd (wedi anghofio'r enw'n barod) .
Dyfaru rwan i mi aros yn Gwynedd yn hytrach na mynd i ddysgu Nghaerdydd 30 mlynedd yn ol!

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2011 1:33 pm
gan prypren
Pennod arall wych neithiwr, Wyn Rowlands ydi un o'r cymeriadau gorau ar y teledu - creepy annifyr anfoesol gret, Beca Mathews yn cymeriad diddorol iawn, mae nhw i gyd yn dda actually

Edrych ymlaen i weld hwn bob wythnos

Y cwestiwn ydi a oes unrhwy ddaioni yn Wyn o gwbwl?

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 12 Rhag 2011 8:04 pm
gan L'etranger
Dwi ddim ond wedi dechrau gwylio'r rhaglen yn ddiweddar, a nawr ma'r rhan fwyaf o'r gyfres wedi diflannu oddi wrth Clic. Oes unrhywun yn gallu awgrymu lle gallai wylio penawdau 2-7, yn ddelfydol drwy 'streamio' ar y we? Dwi'n gwybod eu bod nhw ar Golyg.com, ond mae'n ymddangos bod torrents ddim yn gweithio'n dda iawn ar fy nghyfrifiadur i. Cymerodd hi tua 3 awr i lawrlwytho 20% o pennod 2, felly rhoddais i'r gorau iddi. :?

Unrhyw gyngor? Mae'n gyfres anarferol o wych ar gyfer S4C.

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Maw 13 Rhag 2011 5:10 pm
gan ceribethlem
L'etranger a ddywedodd:Dwi ddim ond wedi dechrau gwylio'r rhaglen yn ddiweddar, a nawr ma'r rhan fwyaf o'r gyfres wedi diflannu oddi wrth Clic. Oes unrhywun yn gallu awgrymu lle gallai wylio penawdau 2-7, yn ddelfydol drwy 'streamio' ar y we? Dwi'n gwybod eu bod nhw ar Golyg.com, ond mae'n ymddangos bod torrents ddim yn gweithio'n dda iawn ar fy nghyfrifiadur i. Cymerodd hi tua 3 awr i lawrlwytho 20% o pennod 2, felly rhoddais i'r gorau iddi. :?

Unrhyw gyngor? Mae'n gyfres anarferol o wych ar gyfer S4C.

Mae torrents yn ddibynnol ar y nifer o bobl arall sy'n ceisio lawrlwytho'r un pryd. Po fwya o bobl sy'n lawrlwytho, yna'r mwyaf sydd yn lanlwytho hefyd, felly efallai nad dy gyfrifiadur di sydd ar fai.

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Maw 13 Rhag 2011 5:42 pm
gan L'etranger
ceribethlem a ddywedodd:
L'etranger a ddywedodd:Dwi ddim ond wedi dechrau gwylio'r rhaglen yn ddiweddar, a nawr ma'r rhan fwyaf o'r gyfres wedi diflannu oddi wrth Clic. Oes unrhywun yn gallu awgrymu lle gallai wylio penawdau 2-7, yn ddelfydol drwy 'streamio' ar y we? Dwi'n gwybod eu bod nhw ar Golyg.com, ond mae'n ymddangos bod torrents ddim yn gweithio'n dda iawn ar fy nghyfrifiadur i. Cymerodd hi tua 3 awr i lawrlwytho 20% o pennod 2, felly rhoddais i'r gorau iddi. :?

Unrhyw gyngor? Mae'n gyfres anarferol o wych ar gyfer S4C.

Mae torrents yn ddibynnol ar y nifer o bobl arall sy'n ceisio lawrlwytho'r un pryd. Po fwya o bobl sy'n lawrlwytho, yna'r mwyaf sydd yn lanlwytho hefyd, felly efallai nad dy gyfrifiadur di sydd ar fai.

Ah, dwi'n deall. Mae'n anhebygol iawn bod rhyw lawer o bobl yn lawrlwytho'r un penawdau, felly rhaid mai hynny sydd ar fai. :(

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Sul 29 Ebr 2012 9:47 pm
gan Josgin
Oes yna rhywun arall yn teimlo fod pethau'n mynd ychydig (!!!!!!) yn hurt , rwan ?

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2012 6:49 am
gan ceribethlem
Josgin a ddywedodd:Oes yna rhywun arall yn teimlo fod pethau'n mynd ychydig (!!!!!!) yn hurt , rwan ?

Na, mae wedi bod yn adeiladu lan at rywbeth o'r fath ers dyfodiad cymeriad Steffan.
Hyderaf fod hurtach i ddod!

Re: Gwaith Cartref

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2012 6:33 pm
gan Josgin
O wel - ddim yn siwr os mai diolch na dyfaru fy mod i'n dysgu mewn ysgol ddiflas tu hwnt !
Y tristwch yw nad yw tri-chwarter staff ein hysgol ( Cymry i gyd , bron iawn) heb nemor ddim diddordeb yn y rhaglen.
Rhy brysur yn marcio (neu marchio) , o bosibl .