Tudalen 1 o 1

Cyflwynwyr S4C

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2011 5:14 pm
gan Bobi
OK, dwi'n bored o'r un hen wynebau ar S4C...

Pobl fel Alun Williams, Morgan Jones, Tudur Owen - i gyd yn gyflwynwyr da, ond yn cael eu gor-ddefnyddio nes mod i'n blino arnyn nhw. Mae Alun Williams er enghraifft i weld ar bob rhaglen blant, a Morgan Jones wedi dechrau ymddangos ymhob gwyl/eisteddfod/gystadleuaeth.

Ydi unrhyw un arall yn cytuno fod angen dechrau defnyddio wynebau newydd NEU ail ddefnyddio cyflwynyr eraill sydd ddim i weld yn ymddangos rhyw lawer erbyn hyn? Beth ddigwyddodd i bobl fel Catrin Mai (Uned 5), Gareth Owen (Uned 5/Cor Cymru) a Ffion Dafis (iDot etc.)? Pob un yn gyflwynydd gwych oedd yn ymddangos ar nifer o raglenni ar un pwynt, ond byth yn cael eu gweld ar S4C erbyn hyn. Mae 'na ddigon o dalent i'w gael, ond fod y sianel yn MYNNU defnyddio'r un bobl dro ar ol tro!

Re: Cyflwynwyr S4C

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2011 3:36 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr gyflwyno ar y sianel. Dim lol. Dim mwydro. Dim esgusodion. Mater o synnwyr cyffredin ydi hyn.
'Roedd e.e. S Lloyd yn cyflwyno ar S4C o Brifwyl Wrecsam. Da iawn. Mwy o hyn.
Cyfle nawr i e.e. L Opik, K Holder, C Cope? Neu beth am i'r sianel chwilio am ddysgwr/dysgwraig sydd ddim yn adnabyddus o gwbl?

Re: Cyflwynwyr S4C

PostioPostiwyd: Llun 24 Hyd 2011 7:32 pm
gan Chickenfoot
Plis, nid Lembit Opik. Mae'n ddigon ofnadwy ei weld o ar deledu Saesneg.