Cynllun Hyfforddi NEWYDD yn y Diwydiannau Cyfryngau Creadigol
Rhowch fantais i’ch gyrfa yn 2012
_______________
DYDDIAD CAU CEISIADAU – 12yp, Dydd Mercher 9fed o Dachwedd 2011
Mae Dimensiwn Digidol yn raglen hyfforddi 7 mis rhan-amser mewn cynhyrchu a rheoli aml-lwyfan ar gyfer 12 cyfranogwr sydd unai yn byw a/neu’n gweithio yn ardaloedd cydgyfeiriant Gorllewin Cymru â’r Cymoedd gan gynnwys Gogledd Orllewin Cymru (cliciwch yma i weld rhestr/map).
_______________
Ar gael –
• Rhaglen dwys o weithdai dros 7 mis
• Hyfforddiant ar-lein ac astudio o bell
• Mynediad i rai o siaradwyr a tiwtoriaid gorau’r diwydiant
• Cyfres o frîffiau gan y diwydiant – bydd disgwyl i chi gyd-weithio â cyfranogwyr eraill ar-lein ac oddi-ar-lein
• Mentor profiadol o’r diwydiant, Cynllun Hyfforddi Unigol a cefnogaeth staff Cyfle
_______________
PECYN GWYBODAETH AC YMGEISIO - http://www.cyfle.co.uk/home/fullPartCoursesDetails/dimensiwndigidol
___________________________________________________
Gwnaed y prosiect yma’n bosibl drwy Skillset Cymru, a gefnogir gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol Cymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).