Anamal y byddai'n gwylio'r S4Cachurwtsh 'na dyddia yma, ond am nad ydi Rachel Riley ar Cowntdown 'mlaen twenti ffor sefn mi bashish roid trei ar sioe y Tiwdor Owan 'ma, i weld pwy 'di mwfars an' shecars y Gymru sydd ohoni hi yn hon, ein hunfed ganrif ar hugian. W'ch chi. Y stars, de.
Pwy oedd yno, yn udrach fatha manijar siop ddillad dynion o Lanrwst ond yr Arvona Trens Dafis 'na a Tara Ei'd Dw Enithin Tw Get on Telifishyn Bethan, y ddau wrthi'n malu awyr efo'r boi 'ma sydd yn cael ei dalu miloedd, mwn, am drio efelychu Graham Norton, a llwyddo i dynnu'r 'ff' allan o ffraethineb.
Ffor ffycs secs. Isho'i difa nhw i gyd sy'. Fel rhododendrons.