Tudalen 1 o 1

Tiwdor Owan and co

PostioPostiwyd: Sad 31 Maw 2012 6:46 pm
gan Llygad Llo Mawr
Anamal y byddai'n gwylio'r S4Cachurwtsh 'na dyddia yma, ond am nad ydi Rachel Riley ar Cowntdown 'mlaen twenti ffor sefn mi bashish roid trei ar sioe y Tiwdor Owan 'ma, i weld pwy 'di mwfars an' shecars y Gymru sydd ohoni hi yn hon, ein hunfed ganrif ar hugian. W'ch chi. Y stars, de.

Pwy oedd yno, yn udrach fatha manijar siop ddillad dynion o Lanrwst ond yr Arvona Trens Dafis 'na a Tara Ei'd Dw Enithin Tw Get on Telifishyn Bethan, y ddau wrthi'n malu awyr efo'r boi 'ma sydd yn cael ei dalu miloedd, mwn, am drio efelychu Graham Norton, a llwyddo i dynnu'r 'ff' allan o ffraethineb.

Ffor ffycs secs. :ing: Isho'i difa nhw i gyd sy'. Fel rhododendrons.

Re: Tiwdor Owan and co

PostioPostiwyd: Sul 01 Ebr 2012 5:58 pm
gan Chickenfoot
Whooping banshees o Gaernarfon a'r cylch yn howlio chwerthin ar ddigrifwr ail gynghrair yn ymddwyn fel plentyn ar nos Sadwrn.
Hefyd, mae'r sioe yma wedi cynnwys Meical whathisface, sydd yn gywilyddus.
Ar y llaw arall, mae S4C wedi rhoi i fi'r anreg o weld Emily Tucker hefo shotgun ar Pobol Y Cwm, ar ol cael gwared o Denzil (28 mlynedd yn rhy hwyr, ond dyna fo). Yummy. Yn anffodus, dw i'n clywed fod Nesta Tables ddim wedi cymeryd bwled trwy'i cheg, ac felly mae'r storyline wedi'i diffetha.
Bush League ydi ymdrechion S4C ar hyn o bryd - efelychu yn lle creu rywbeth newydd, diddorol.