Tudalen 1 o 1

Syr Wynff a Plwmsan, y Cartŵn

PostioPostiwyd: Gwe 27 Gor 2012 11:13 am
gan Iestyn
Helo pawb.

Drost y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi bod yn gweithio ar droi Byd y ddau arwr 'Syr Wynff a Plwmsan' yn gartŵn 3d. Roeddwn yn gweithio'n agos hefo'r ddau actor, Wynford Ellis Owen a Mici Plwm, i drio cael y ddau gymeriad i edrych mor agos a fedrwn, i'r 'Syr Wynff a Plwmsan' gwreiddiol. Yn anffodus, wythnos diwethaf ar ôl trafod llawer gyda S4C, maent wedi penderfynu peidio comisiynu'r project.

I'r sawl sydd hefo diddordeb gweld y gwaith hyd yn hyn, dyma linc i fy ngwefan sy'n dangos y cymeriadau, eu Byd, ag 'test animation' o Syr Wynff (sydd dim ond tua 40% wedi 'i orffen).

Syr Wynff a Plwmsan, y Cartŵn

Mi fyswn wrth fy modd cael ychydig o adborth am y gwaith hyd yn hyn gan y bobl sydd wedi tyfu i fyny hefo'r ddau yma fel fi, a chael clywed be fysa eich barn chi am y project.

Fy mwriad i nawr ydi i neud un pennawd, tua 8 munud o hyd, yn defnyddio un o sgriptiau gwreiddiol mae Mici Plwm wedi 'i ysgrifennu yn sbeshal i'r Cartŵn.

Mae'r blog cynhyrchu i'w weld yma: Blog Cynhyrchu - Syr Wynff a Plwmsan

Hefyd, mae yna erthygl yn y Cylchgrawn 'Golwg' yr wythnos yma am y project.

Edrych ymlaen cael clywed be sydd gan pawb i'w ddweud.
Diolch,

Iestyn