Tudalen 1 o 1

Uwch-Arwyr Cymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 06 Chw 2013 4:16 pm
gan Chickenfoot
Oes rhywun wedi ysgrifennu comic "superheroes" yn y Gymraeg erioed? Dw i'n gwybod fod cymeriadau Cymraeg yng nghyfres Captain Britain, ond wrth gwrs does dim air o Gymraeg yn y comics yna! :winc:

Re: Uwch-Arwyr Cymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 06 Chw 2013 5:25 pm
gan ceribethlem
Ges i freuddwyd mod i wedi creu un a'i werthu i Marvel am filiwn neu ddwy!
O'n i'n reit gyted pan ddihunes i!

Re: Uwch-Arwyr Cymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 06 Chw 2013 10:39 pm
gan ap Dafydd
Chickenfoot a ddywedodd:Oes rhywun wedi ysgrifennu comic "superheroes" yn y Gymraeg erioed? Dw i'n gwybod fod cymeriadau Cymraeg yng nghyfres Captain Britain, ond wrth gwrs does dim air o Gymraeg yn y comics yna! :winc:


Gobeithio bod nhw'n _elynion_ Captain Britshit...

mynyffarni!

Ffred

Re: Uwch-Arwyr Cymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2013 8:27 pm
gan Josgin
Dwi'n cofio comic o'r enw'Hebog' yn y 60au/70au, ond heb gofio'r manylion, nid oedd neb cyffelyb ynddo. Newydd gofio un, wrth gwrs - Superted !Gallaf feddwl am ddihirod: ' Capten Cwsg' (alter ego Carwyn Jones) ' Y Rwdlyn ' (Dafydd Ellis Thomas) ' Triawd Y Llafurwyr cudd' (Meri Huws, Roy Noble, Merfyn Jones) ' Y Llipryn Llwyd '
(Ieuan Wyn Jones) .

Re: Uwch-Arwyr Cymraeg?

PostioPostiwyd: Iau 18 Ebr 2013 10:33 am
gan Chickenfoot
ap Dafydd a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Oes rhywun wedi ysgrifennu comic "superheroes" yn y Gymraeg erioed? Dw i'n gwybod fod cymeriadau Cymraeg yng nghyfres Captain Britain, ond wrth gwrs does dim air o Gymraeg yn y comics yna! :winc:


Gobeithio bod nhw'n _elynion_ Captain Britshit...

mynyffarni!

Ffred


Girlfriend, don't hate, participate! :winc: Neu o leia meddylia am well pun, ynde. Wedi dweud hynny, dw i'n rel un i siarad!

O'r ychydig dw i di weld o hynt a helynt y Capten, mae'n stori reit dda - a mae'n caru ni i gyd, sdi, hyd yn oed Cymry Cymraeg!

Re: Uwch-Arwyr Cymraeg?

PostioPostiwyd: Sul 28 Ebr 2013 1:53 pm
gan ceribethlem
ap Dafydd a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Oes rhywun wedi ysgrifennu comic "superheroes" yn y Gymraeg erioed? Dw i'n gwybod fod cymeriadau Cymraeg yng nghyfres Captain Britain, ond wrth gwrs does dim air o Gymraeg yn y comics yna! :winc:


Gobeithio bod nhw'n _elynion_ Captain Britshit...

mynyffarni!

Ffred

Symo fi 'di darllen dim Captain Brit, ond fi'n credu gath e'i bwerau wrth Myrddin.
Cofio darllen rhywbeth am tîm Excalibur slawer dydd, odd rwbeth am Syr Gawain a'r marchog gwyrdd ynddo fe. Methu cofio dim arall ond am sôn am W.H.O. Sef y Weird Happenings Organisation.

Re: Uwch-Arwyr Cymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 16 Hyd 2013 1:44 pm
gan Chickenfoot
Digon gwir, Ceri. Peth diddorol am Captain Britain yw fod y pbwerau cafodd o gan Myrddin yw eu bod nhw'n ddibynnu ar ei hyder. :seiclops:

Dw i heb darllen y straeon cynt, ond mae'r nofel graffeg Captain Britain and MI13 werth ei darllen. Mae Pete Wisdom, oedd yn rhan o'r WHO, yn gynmeriad reit bwysig ynddi.