Tudalen 1 o 1

Stori Moc ym Mhobol Y Cwm

PostioPostiwyd: Llun 29 Gor 2013 10:47 am
gan Chickenfoot
Oes rywun arall yn gweld storyline Moc ychydig yn rhy, wel, creepy i'w darlledu ar sioe fel PYC - yn enwedig pan mae stori am Sheryl yn cael ei threisio yn cyd-rhedeg hefo hi? Gormod mewn un go, falla? :?

Re: Stori Moc ym Mhobol Y Cwm

PostioPostiwyd: Sul 25 Awst 2013 8:18 am
gan ceribethlem
Stori Moc un berthnasol o ran y newyddion am Jimmy Saville, sbo. Sai di meddwl fod e'n ormod.

Re: Stori Moc ym Mhobol Y Cwm

PostioPostiwyd: Mer 28 Awst 2013 3:04 pm
gan Chickenfoot
Digon teg - mae Operation Yewtree (sut ydyn nhw'n dewis enwau'r operations gyda llaw?) wedi dod a'r mater yma i'r sylw yn gryfach nac erioed, a mae'n mynd i fod yn bwnc sy'n rhannu gwylwyr o ran pwy sydd eisiau'i gweld yn y sioe neu ddim.