Reit dyna ddigon o ddarllen postiadau ffecin Lord of the Rings.
Ges i ambell i clasic DVD dros dolig sydd wedi troi allan i fod yn wych
Twelve angry Men - Ohmigod, am ffilm wych a mae'r ffordd ma nhw di creu y tensiwn yn anghygoel.
Strangers On a Train - Diweddglo mental ac oll yn 'delicious' Hitchcock, gallu gweld o'n llyfu ei wefusa tra'n sgwennu.
The 39 Steps - Un arall gwych, er fod yr acenion Queen's English a'r rhai Albanaidd yn gneud i fi chwerthin bach rhy amal.
The Wild Bunch - Peckinpah ar ei ora. Crescendo o waed a gynnau. Efo Mexicans budr galore. (Dirty Sanchez...he he )
Be di'r ffefrynnau ta? Dwi'n cael mwy o flas ar y rhain dyddia yma nac ar y rhan fwyaf o stwff sinema.