Clasuron Ffilm - Ffefrynnau?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Alys » Gwe 17 Ion 2003 2:55 pm

Diolch.
Dim sôn ohono fo yn y sinemau lleol... :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Geraint » Gwe 17 Ion 2003 3:09 pm

Hmm, ma'r Koyaanisqatsi na'n edrych yn ddiddorol.

Mae 'The Gods must be Crazy' yn dda, ffilm o Affrica. Mae o fel slapstick comedi, ond gyda negeseuon sut all diwylliant y Gorllewin difetha cymdeithasoedd, e.e. yn y ffilm yma, mae na fotel o coke yn glanio yn pentref o Bushmen, ar ol cael ei daflu o awyren. Mae hwn yn achosi iddynt ymaldd ac ati am y peth anhygoel ma, ac yn achosi lot o gasineb, ac iddynt ymddwyn fel roedd neb erioed wedi o'r blaen, ac yn y diwedd, mae nhw yn pendefynnu anfon un ohonynt i bendraw y byd i gael gwared ohonno, "with hilarious concequences" fel bydde'r voiceover yn deud ar y treilyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gruff Goch » Gwe 17 Ion 2003 3:35 pm

Alys a ddywedodd:Unrhywbeth gan y brodyr Coen, O Brother Where Art Thou a Fargo yn arbennig.


The Big Lebowski a O Brother ydi dau o'n ffefrynnau i. Alla i wylio rheiny drosodd a drosodd. Ddim cweit mor keen ar Fargo, ond mi wnes i fwynhau 'The Man who Wasn't There' yn fawr.

Rhai o'r lleill dwi'n licio:

American History X
LA Confidentials
Shawshank Redemption

Gruff :D
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 17 Ion 2003 4:05 pm

Ydy mae'r Big Lebowski yn glasur, dwi wedi bod yn re-anactio rhai o'r golygfeydd lawr yn Roy World ar City Road, Bowling Alley gora Cymru! Well na un Glan Llyn eniwe :D

Dwi'n credu fod Cronenberg angen mensh rhywle yng nghanol hyn hefyd:

Shivers yn glasur o'r zombie genre. Sex-crazed zombies yn cael ei transmitio gan leeches. Yeah! A does neb yn byw ar y diwedd, solid! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Ramirez » Gwe 17 Ion 2003 7:28 pm

Shrek. Genius.

Wedi cael box set DVD's Godfather dolig hefyd. Efo eithriad y drydedd, classic.

Shawshank Redemptions yn un o fy ffefrynnau hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan ceribethlem » Sul 19 Ion 2003 7:28 pm

Dwi'n credu fod Cronenberg angen mensh rhywle yng nghanol hyn hefyd:


Gwir, Rabid yn ffilm wych arall nath Cronenberg. Bois y cownsil ar y lori bins yn mynd rownd yn saethu'r bobl rabid ar y diwedd yn wych.
Yn fy marn i Videodrome yw ffilm gorau Cronenberg, am un rheswm dyma'r defnydd gorau o Blondie fel brunette erioed!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 21 Ion 2003 5:37 pm

Rabid ydi'r un efo'r ddynas efo'r fang na'n dod allan o'i chesail ynde? Ffacin gret, pan welis i hwnna o'n i mewn Cronenberg heaven!

Methu aros i weld Spider er ei fod yn chydig o adawiad o'i stwff arferol. Dwi'n credu mai Crash yw ei ffilm wannaf, dim stori, rhyw diflas er ei fod o'n hyped fel ffwc, o'n i jest yn bord trwyddo a fu bron i fi roi'r fideo ffwrdd. Oedd Existenz yn 'return to form', nes i adael y sinema yn teimlo'n hollol weird, fatha bo fi mewn gem gyfrifidaur fy hun. Hollol weirded out.

A son am hynny nes i droi'r sianel ar y teli neithiwr a landio'n syth ar yr oluygfa yn Minight Express lle mae'r boi'n mynd yn mental efo'r Turk sy'n gadael y carchar, cicio tair shed o shit allan ohonno fo a rhwygo ei dafod allan gydai ddannedd! Oedd o'n afiach :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai