Gangs of New York

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gangs of New York

Postiogan huwwaters » Llun 20 Ion 2003 9:37 pm

Ffilm dda iawn. Y plot yn weddol hawdd i'w ddilyn, hudnod fy mod wedi drysu efo'r amser yn neidio unwaith neu ddwy.

Braidd yn ddychrynllyd os nad ydych yn hoff o weld pobl yn cael eu stabio a'u lladd.

Ar y cyfan, ffilm dda. Rhywyn arall wedi ei weld?

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Geraint » Iau 23 Ion 2003 1:45 pm

Oedd, mi oedd yn dda, oned roedd llawer o bethau ddim mor dda. Ar y cyfan, darlun gwych o Efrog Newydd yn y 19eg, perfformaid Daniel Day-Lewis yn hollol ardderchog, gwneud Di Caprio a Diaz edrych fel amateurs. Mae na lot fawr o drais erchyll ynddo, dwi ddim yn argymell mynd a merch ar y det cyntaf!Roedd mor gymaint o drais ynddo, reodd yn colli'r effaith erbyn y diwedd. Roedd yn llawer rhy hir, gyda'r awr ola yn llusgo, a'r sub-plot cariad yn crap a di-angen. Dwi'n cytuno efo'r critics, sydd yn galw fo'n ' flawed masterpiece'
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 29 Ion 2003 5:35 pm

Welis i hwn neithiwr, cytuno a Geraint mewn ffordd. Oedd yr agwedd hanesyddol yn ddiddorol iawn. Gret cale cip mewn i adeg o fywyd New York sydd ddim yn cael ei weld a'i drafod yn amal, fan hyn beth bynnag.
Daniel Day Lewis yn rhoi perfformiad gwych ond gyda gymaint o actio diflas oi gwmpas roedd yn tynnu oddi ar ei berfformiad o'i'n credu. Oedd Cameron Diaz mor brennaidd a phostyn giat a Di Caprio yn neud dim allan o'i ran o chwaith. A be ffwc oedd y stori, os elwir hynny'n stori, lull diawledig o hir yn y canol fu bron i mi gerdded allan ar ol y deg person arall wnaeth wneud, ond oedd rhaid rhoi tegwch iddo a gweld y diwedd. Oedd na rywbeth arbennig, na, dechrau adeiladu lan at rywbeth wedyn, fflop oedd o gyd yn disgyn i ddarnau. A be ddigwyddodd i'r boi Chinese oedd yn cynllwynio gyda fo? Dim esboniad.

Ar y cyfan ffilm gydag ambell set piece da, ond mor disjointed fod o'n anweladwy. Ella ddylsa Scorcese ddim di cadw fo'n 'pet project' am mor hir a meddwl gormod amdano. Tri duffer mewn rhes rwan, ma'r boi ar ei ffordd lawr ddim ots faint mor dda oedd ei ffilms...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Cardi Bach » Maw 11 Chw 2003 9:01 am

Gweld y ffilm neithwr - meddwl ei fod e'n arbennig o dda!
mwy gwaedlyd 'na beth oe'n i'n ddisgwyl. Cytuno fod y plot am 'gariad' jenny+amsterdam yn wastraff amser.
os na chaiff day-lewis oscar mi fydd hi'n scandal - y perfformaid gore mewn ffilm mor fawr ers amser maith, am wn i. odd e'n shit-hot chware teg. diaz fel planc.
O'n i ddim yn eu gweld hi'n llisgo o gwbwl - ac mi ath yr amser yn ddigon cloi - ond o ystyried prif neges/thema y ffilm - 'the blood always stays on the blade' ac mae dyma beth yn ei hanfod oedd y ffilm yn drafod, ar sawl lefel, roedd tair awr braidd yn hir wedyn. Dyna pam am wn i y taflwyd y 'love interest' i fewn - roedd scorsese am roi y profiad sinematic gwefreiddiol yma i bobl - efrog newydd 150 mlynedd yn ol - ond doedd plot ei ffilm ddim yn caniatau hynny = taflu mewn diaz iw wneud yn hyrrach! bydde'n well gyda fi tase fe wedi anghofio'r 'love interest' - yn anffodus ar ol adeiladu fyny cymaint gyda pherthynas amsterdam a'r bwtshwr, mi ddatblygodd y diweddglo (twf amsterdam), mewn cymhariaeth lawer yn rhy gloi. hmmmm.
ond, gwd ffilm.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron