Nes i wylio ffilm neithiwr ar fideo oedd yn rybish llwyr o ran ei gynnwys, yr actio, y sgript, y sinematograffi...deud y gwir doedd na ddim ond un peth wnaeth neud i fi ei wylio tan y diwedd, oedd o i gyd yng Nghernyweg. Pob un gair. Sa rywun yn gwybod pa mor fyw ydi'r Gernyweg? Ydi hi'n cael ei siarad o ddydd i ddydd? Mae'n rhaid deud nad oedd yr actorion yn rhugl iawn. Beth bynnag, falla ei fod o ddiddordeb i chi...falla ddim! Hwyl.
Erthygl Newyddion Hwerow Hweg
Offisial Webseit
Rhagor o newyddion amdano