"Cyfle i wylio ffilm ar y lleuad"

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

"Cyfle i wylio ffilm ar y lleuad"

Postiogan huwwaters » Sad 25 Ion 2003 11:21 pm

Dyfyniad o 'golwg' cyfrol 15 | rhif 19 | Ionawr 23 | 2003:

Mae cydeithas ffil fwya' gwreiddiol Cymru yn gobeithio creu hanes trwy ddangos ffilm ar ochr dywyll y lleuad.
Mae'r Rêl Institiwt yn gobeithio y bydd modd i bobol weld y ffilm Super 8 trwy edrych i fyny i'r awyr ar y lleuad nos Lun nesa', Gwyl Pictiwrs Cymru. Mae'r trefnwyr am fod yn defnyddio offer arbenigol er mwyn taflunio'r ffilm 384,000km i'r gofod.
Er bod arbrawf ddiweddar wedi gweithio "i ryw raddau", fe fydd llwyddiant nos Lun yn dibynnu ar y tywydd. Dyw'r trefnwyr ddim yn siwr chwaith a fydd hi'n bosib i bobol o bob rhan o gymru weld y ffilm ar y lleuad.


Ond hanner yr erthygl sydd fana, felly dylech chi brynnu golwg i weld y gweddill.

Diddorol yn tydi? Ond praint o'r gloch fydd o? Nai trio ffindio allan.

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan huwwaters » Sul 26 Ion 2003 12:46 pm

Wedi dod o hyd i hyn oddi ar http://www.realinstitute.org/pages/homecym.htm

TAFLUNIO FFILM AR Y LLEUAD
27 Ionawr 2003
Bydd Rêl Institiwt yn dangos ffilm erioed wedi ei weld o'r blaen am y tro cyntaf erioed ar ochr dywyll y lleuad ar Ionawr 27 2003


Mae’r ffilm, yn ôl bob sôn wedi’i saethu yn gyfrinachol gan Pavel I. Belyayev yn ystod ymdaith Voskhod 2 yn 1965, yn cael ei ddangos fel rhan o ‘Gwyl Pictiwrs Cymru’.


Mae bodolaeth y ffilm ‘Super 8’ wedi cael ei wadu yn rheolaidd gan y ‘Russian Aviation and Space Agency’ ac y ‘Military Space Forces’ (etifeddion rhaglen gofod Rwsia).
Doedd yr awgrymiadau fod gan Stanley Kubrick (cyfarwyddwr ‘2001: A Space Odyssey’) gopi o’r ffilm heb eu cadarnhau yn ystod ei oes.


Doedd Belyayev, cynhychydd ffilm amatur a gofodwr ar daith Voskhod 2, erioed wedi gwadu nag cadarnhau ei ran yn y ffilmiau. Doedd heb sôn am gynnwys y ffilmiau, ond mae sibrydion o gwmpas y gallant godi cryn gywilydd ar awdurdodau y Sofietwyr.


Mewn cyd-weithrediad gyda’r ‘Kazakhstan League for Historical Rectification’, bydd Rêl Institiwt yn dangos y ffilm am y tro cyntaf erioed yn y cysawd heulol.


Yn y digwyddiad digyffelyb yma, bydd Rêl Institiwt yn defnyddio taflunydd ‘Super 8’ wedi’i ddatblygu yn arbennig, i geisio fod y cyntaf i gyrraedd gwyneb y lleuad gyda golau seliwloid.


Hefyd fel rhan o'r noson o adloniant gofodol bydd pennod glasurol o'r gyfres deledu cwlt yr 1980au 'Button Moon', hefyd 'The Clangers - a Welsh Tragedy' ffilm ddogfen newydd yn archwilio marwolaeth araf y pypedau gwlan wrth iddynt lwydo mewn sied yng ngwaelod gardd yn Ceintaidd.


Mae Rêl Institiwtwyr rheolaidd yn cael eu atgoffa i beidio â mynychu Neuadd Goffa Betws-y-Coed ar gyfer y digwyddiad hwn ond i edrych ar y lleuad.

Bydd y gofod yn agor am 7pm, ffilms i ddechrau am 7.45pm.


Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron