Rhentu DVD's ar y we

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhentu DVD's ar y we

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 27 Ion 2003 6:38 pm

Oes na rywun ar Maes-E yn cymeryd rhan yn un o'r deals rhentu yma?

Os felly pa un da chi'n awgrymu, dwi di checkio tua deg allan a ma tri yn dod i'r top a ma nhw'n edrach yn fargan ac yn sbario fi gamu allan o'r ty. Hefyd dwi'n casau basdad Bancbystyr Video, dewis cachlyd hefyd (dowch a Cardiff Film & Video nol i death junction - basdad Bedybuys...sob! Sori, tangent...)

Beth bynnag, cymrwch olwg a helpwch fi ddewis...na i ddim symud o'r ty am fisoedd ar ol cael hwn dwi'n meddwl.

http://www.in-movies.com/dvd
http://www.dvdsontap.com
http://www.dvdoptions.com
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan nicdafis » Llun 27 Ion 2003 9:50 pm

A fyddai diddordeb ymysg y maeswyr ffurfio cylch benthyg DVDs? Dw i ddim yn prynu lot o DVDs, ond byddwn i'n hapus i'w rhannu nhw gyda pobl. Os oes diddordeb, wnai sefydlu cylch defnyddwyr lle gall pobl rhestri'r DVDs sy 'da nhw - fyddai hynny ddim ar gael i bawb darllen, dim ond aelodau'r cylch. Beth dych chi'n meddwl? Gyda'n gilydd gallwn ddinistrio elw Hollywood!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Di-Angen » Maw 28 Ion 2003 12:26 pm

Mae yna January sales mewn nifer o lefydd online hefyd, megis amazon neu http://www.play.com, gyda Play yn cynnig cannoedd o DVDs am 3.99 i fyny, gyda free delivery.

Dwi wedi prynu Driller Killer, Amityville 3, Taxi a House am average o bum punt yr un!
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Maw 28 Ion 2003 5:06 pm

Ti wedi cael dy losgi 'te ;-)

Diolch am y linc, do'n i ddim wedi clywed o'r pobl 'ma (dw i ddim yn wneud lot o siopau ar lein, dim ond Amazon ac eBay). Mae ganddyn nhw <a href="http://www.playserver2.com/play247.asp?page=title&r=R2&title=110399">Koyaanisqatsi / Powaqqatsi</a> am £14.99, sy'n punt yn well nag Amazon a dim cludiant.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Di-Angen » Maw 28 Ion 2003 5:51 pm

nicdafis a ddywedodd:Ti wedi cael dy losgi 'te ;-)

Diolch am y linc, do'n i ddim wedi clywed o'r pobl 'ma (dw i ddim yn wneud lot o siopau ar lein, dim ond Amazon ac eBay). Mae ganddyn nhw <a href="http://www.playserver2.com/play247.asp?page=title&r=R2&title=110399">Koyaanisqatsi / Powaqqatsi</a> am £14.99, sy'n punt yn well nag Amazon a dim cludiant.


Ie ges i'r ddau yna o amazon wythnos diwethaf ar ol gweld chi'n siarad amdano, ond dwi heb edrych arnynt eto.

Os oes gen ti multiple email addresses (rwy'n cymryd dy fod gan dy fod yn berchen dau domain o leiaf) mae yna ffordd syml o gael pumpunt off pob order amazon trwy abuse-io polisi refer-a-friend nhw. Gan bod sales ganddynt beth bynnag gyda nifer ar 8.99, gallet gael nifer o rai da am 3.50. Ges i pethau fel Holy Grail, Italian Job, Shawshank ayb am £3.50 yr un.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan nicdafis » Mer 29 Ion 2003 11:24 am

Hrm. Mae 92 aelod o Maes E, bob un gyda cyfeiriad ebost potensial ei hun...
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cardi Bach » Mer 29 Ion 2003 3:57 pm

Yn ol pob son, os odych chi moyn prynnu nifer o bethau yr un pryd ar y we a gyda rhyw ychydig o grap ar Almaeneg neu iaith dramorol, yna mae'n werth mynd ar wefannau cwmniau fel Amazon yn yr Almaen (neu pha bynnag wlad sydd gyda'r iaith chi'n ddeall ee amazon.de) achos fod pethau fel dvd's, fideo's a llyfrau a cd's ac ati gymaint yn rhatach ar y cyfandir.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai