Rhywun fan hyn wedi ei weld o? Ffilm gan Dario Argento. Wedi gweld Suspiria a meddwl fod o'n wych ma hwn nawr allan ar DVD ac wedi cael 5 seren ar wefan ffilm03. Jest meddwl faswn i'n gweld os oedd rhywun arall a barn arno ac os dio'n werth fforcio allan £14. Be yn union ydi ystyr 'Giallo' - suspense a lladd gwaedlyd ydi steil y genre? Oes gan rywun esboniad?
Mynd i weld Spider heno, methu witsiad. Gormod o bethau da yn y sinema ar y foment dim digon o oriau yn y nos.