gan Rhodri Nwdls » Llun 10 Chw 2003 1:08 pm
Heb ei gweld fy hun, fethis i hi'n ddiweddar ond roedd pawb yn son amdani.
Dwi dal yn credu mai City of God ydi ffilm ora'r flwyddyn i fi, jest am fod mor ffresh a sbarcio gyda syniadau a chynnwrf.
Roedd The Pianist nos Iau yn brofiad a hanner hefyd, dydi ffilm heb gael effaith mor ddofn arna fi a honna ers oes pys. Mae'r holl ffilm yn annodd iawn i'w wylio o ran ei gynnwys ond mae'n dangos ochr ddynol pobl mewn rhyfel hefyd mewn ffordd sydd ddim mor sentimental a Schindler's List ond sydd yn bwerus ofnadwy. Mae'n anghygoel faint da ni'n anghofio digwyddiadau'r ail ryfel byd a'r fath hunllef oedd hi i Iddewon a lleiafrifoedd eraill yn y ghettos, mae hwn yn eich rhoi chi yn y safle hynny ac mae'n brofiad dwys iawn. Ddim yn ffilm i fynd ar ddet cynta!