Cymry Rhyfel Cartref America

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymry Rhyfel Cartref America

Postiogan eusebio » Maw 06 Ion 2004 10:09 pm

Rhaglen uffernol o ddifir ar S4C heno am ryfel cartref America drwy lygiad y Cymry fu'n ymladd.

Da iawn chi cwmni da!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Macsen » Maw 06 Ion 2004 10:20 pm

Gen teulu fi ryw dri deg llyfr ar y rhyfel cartref yn ty- roedd fy nhad i'n obsessed hefo fo. Oedd yna unrhywbeth yn y ddogfen am y boi saith troedfedd 'na o Gymru aeth i gwffio?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan eusebio » Maw 06 Ion 2004 10:40 pm

Nagoedd, ond mae'r gyfres yn parhau - ella cawn wybod mwy wythnos nesa!

http://www.s4c.co.uk/america
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan nicdafis » Maw 06 Ion 2004 11:11 pm

Damo, anghofiais i osod y fideo am hon. Oes ail-ddarllediad?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 06 Ion 2004 11:15 pm

A ydych chi wedi gweld <a href="http://www.gtj.org.uk/item.php?lang=cy&id=8194&t=10">hwn</a>, sef casgliad o "dros 80 o lythyrau yn y Gymraeg, 1862-1864, a anfonodd Corporal John Griffith Jones at ei deulu pan oedd yn gwasanaethu gyda 23ain Catrawd Gwirfoddolwyr Wisconsin, ym myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America."
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Dylan » Mer 07 Ion 2004 12:20 am

Rhaglen hynod o ddifyr 'o'n i'n meddwl. 'Dw i'n ystyried prynu'r llyfr.

edrych ymlaen am weddill y gyfres
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Mer 07 Ion 2004 12:24 am

Nicdafis a ddywedodd:Corporal John Griffith Jones


Dyna di'r boi! Mae gen i lun ohona fo yn fy ystafell fyw. Roedd fy nhad i am ysgrifennu llyfr amdano, dwi'n credu.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan brenin alltud » Mer 07 Ion 2004 9:42 am

Mmm, Jerry Hunter :wps: :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan eusebio » Mer 07 Ion 2004 11:12 am

brenin alltud a ddywedodd:Mmm, Jerry Hunter :wps: :winc:


Tasa fo mond yn cadw ei freichiau'n llonydd pan mae o'n siarad!!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Clarice » Mer 07 Ion 2004 11:28 am

eusebio a ddywedodd:Tasa fo mond yn cadw ei freichiau'n llonydd pan mae o'n siarad!!


Oedd na rywbeth yn bod ar safon y llun? Oedd e'n edrych fel tase fe'n cael ei chwarae ar y sbid anghywir. Ar un pwynt ro'n i'n meddwl mai ei mannerisms e oedd e ond wedyn nes i sylwi yn ystod y llunie ail-greu'r milwyr eu bod nhw fel tasen nhw'n symud bach yn rhy gyflym. Es i mor obsessed gyda gwylio hwnna fel nes i golli lot o beth oedd yn digwydd a bod yn onest.
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron